Cyllid myfyrwyr yng Nghymru
Gwedd
Mae cyllid myfyrwyr sydd ar gael i unigolion sy'n mynychu addysg uwch yng Nghymru yn cynnwys amryw o fenthyciadau, grantiau, bwrsarïau, nawdd, ac ysgoloriaethau.
Costau byw
[golygu | golygu cod]Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig Benthyciad Cynhaliaeth (a elwir yn aml yn Fenthyciad Myfyriwr) yn ddibynnol ar incwm teulu'r myfyriwr a ble mae'n ei astudio. Darparir tair cyfradd: "Cyfradd byw gartref", "Cyfradd byw oddi cartref", a "Chyfradd byw oddi cartref yn Llundain".[1]
Ffïoedd dysgu
[golygu | golygu cod]Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu Benthyciad Ffïoedd Dysgu i dalu am ffïoedd dysgu'r myfyriwr. Nid oes rhaid talu hyn yn ôl nes bod yr unigolyn wedi cwblhau ei astudiaethau ac yn ennill dros £15,000 y flwyddyn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 7 Ebrill 2011.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Cyllid Myfyrwyr Cymru Archifwyd 2011-04-07 yn y Peiriant Wayback