Llawysgrif Hendregadredd

Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Hendregadredd
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Tudalennau126 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1282 Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLlyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
Map

Llawysgrif Hendregadredd yw un o'r llawysgrifau Cymreig cynharaf a phwysicaf i oroesi ac un o'n dwy brif ffynhonnell am waith Beirdd y Tywysogion, ynghyd â Llyfr Coch Hergest. Mae'r brif law yn dyddio o tua 1300-1310. Mae'n llawysgrif ar femrwn sy'n cynnwys 126 o dudalennau ac yn mesur 8.2 x 6 modfedd. Yn ddiweddarach, tua'r 1330au, ychwanegwyd rhai testunau o waith y cywyddwyr, gan gynnwys rhai o gywyddau Dafydd ap Gwilym a Gruffudd Gryg. Cred rhai ysgolheigion mai Dafydd ei hun a ysgrifennodd y testunau hynny.

Hanes y llawysgrif[golygu | golygu cod]

Mae hanes y llawysgrif yn ddiddorol. Ar ddechrau'r 14g roedd ym meddiant Ieuan Llwyd ap Ieuan ap Gruffudd Foel o Barcrydderch ger Llangeitho. Tua chanol y 16g roedd ym meddiant yr achyddwr Gruffudd Dwnn ac yna aeth i feddiant y bardd Wiliam Llŷn (tua 1580). Cafodd ei lle yn llyfrgell enwog yr hynafiaethydd Robert Vaughan yn Hengwrt lle gwnaeth John Davies o Fallwyd gopi ohono yn 1617: y copi hwnnw sy'n sail i destun adran y Gogynfeirdd yn y Myvyrian Archaiology of Wales. Aeth y llawysgrif o'r golwg yn y 19g, a thybiwyd ei bod ar goll, ond yn 1910 fe'i darganfuwyd gan John Jones (Myrddin Fardd) ac Edward Breeze mewn hen wardrob ym mhlasty Hendregadredd, ger Cricieth. Cafodd gan aelodau o deulu Gregynog pan roddodd ei berchennog John Ignatius Williams o Hendregadredd hi mewn arwerthiant yn Llundain. Heddiw mae'n ddiogel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Rhai o'r beirdd y ceir testunau o'u gwaith yn y llawysgrif[golygu | golygu cod]

Prif law[golygu | golygu cod]

Ychwanegiadau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]