Michael Faraday

Oddi ar Wicipedia
Michael Faraday
Ganwyd22 Medi 1791 Edit this on Wikidata
Newington Butts, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1867 Edit this on Wikidata
Palas Hampton Court, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Addysggradd er anrhydedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, cemegydd, dyfeisiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Royal Institution Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHumphry Davy, Jane Marcet Edit this on Wikidata
TadJames Faraday Edit this on Wikidata
MamMargaret Hastwell Edit this on Wikidata
PriodSarah Barnard Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Medal Copley, Medal Brenhinol, Medal Rumford, Medal Albert, Bakerian Lecture, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Cemegydd a ffisegydd Seisnig oedd Michael Faraday, FRS (22 Medi 179125 Awst 1867). Daeth Faraday o deulu tlawd ond Cristnogol, roedd yn aelod ac yn flaenor gyda'r sect Protestanaidd y Sandemaniaid, ac felly cyrhaeddod lefel uchel o lythrennedd am y cyfnod i blentyn mor dlawd. Gwasanaethodd wedyn am saith mlynedd fel prentis i rwymydd llyfrau. Felly roedd cyfle gwych ganddo i ddarllen llyfrau gwyddonol. Roedd ei dad yn of, ac felly roedd Michael yn fachgen digon alluog gyda theclynau ac ynni o'r dechrau.

Drwy fynychu darlithoedd gwyddonol nosweithiau, fe gafodd gyfeillgarwch Humphry Davy, ac fe ddaeth i weithio i'r Royal Institution yn Llundain (ar y pryd yn gweithio fel adran gwyddoniaeth y Brifysgol). Dringodd yn gyflym i fod yn aelod llawn ac wedyn athro. Cyfranodd yn sylweddol i'r fyd Cemeg a Ffiseg, a Faraday oedd y gwyddonydd a ddarganfuwyd anwythiad electromagnetig, diamagnetedd ac electrolysis a'r cysyniad o faes magnetig. Creodd sylfeini y modur trydan. Daeth o hyd i gemegau newydd fel bensen, dechreuodd y syniad o rifau ocsidiad a'r termau anod, catod, electrod, ac ïon. Enwyd yr uned SI am gynhwysiant, Farad, ar ei ôl, a hefyd y cysonyn Faraday.

Er gwaethaf diffyg addysg prifysgol ffurfiol, fe ddaeth yn Athro Fullerian Cemeg, post a gadwodd hyd at ddiwedd ei oes.