Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
[[File:Coat of Arms of the United Kingdom (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom (1816-1837).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1816-1837).svg, Coat of arms of the United Kingdom (1901-1952).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1837-1952).svg|100px|upright=1]]
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain Edit this on Wikidata
Poblogaeth45,370,530, 16,345,646, 42,769,196 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Arwynebedd315,093 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.507222°N 0.1275°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiôr V, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata

Ym 1801, gan weithredu Deddf Uno 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Nodweddir hanes y deyrnas gan dwf yr Ymerodraeth Brydeinig, a gyrhaeddodd ei hanterth yn oes y frenhines Victoria. Y ffactor bwysicaf yn hanes mewnol y deyrnas efallai oedd y galwadau cynyddol am ymreolaeth neu hunanreolaeth i Iwerddon, Cymru a'r Alban. Arweiniodd hyn yn y pen draw at sefydlu Saorstat Eireann a rhwygo'r wladwriaeth a'i hailenwi. Prin y ceir blwyddyn yn hanes y deyrnas na welwyd ei lluoedd arfog yn ymladd rhywle yn y byd, e.e. y Rhyfeloedd Napoleonaidd, Rhyfel Crimea, Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Brenhinoedd a breninesau Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon[golygu | golygu cod]

Dyma restr o frenhinoedd a breninesau'r deyrnas Unedig o 1801 hyd 1927.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato