Gweriniaeth Iwerddon
|
| |
|
Éire Ireland | |
|
| |
| Enwyd ar ôl |
Iwerddon |
|---|---|
| Math |
gwladwriaeth sofran |
| Prifddinas |
Dulyn |
| Poblogaeth |
4,761,865 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem |
Amhrán na bhFiann |
| Pennaeth llywodraeth |
Leo Varadkar |
| Cylchfa amser |
UTC±00:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Gwyddeleg, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol |
Yr Undeb Ewropeaidd, Y Gymuned Ewropeaidd |
| Arwynebedd |
70,273 km² |
| Yn ffinio gyda |
Y Deyrnas Unedig, Gogledd Iwerddon |
| Cyfesurynnau |
53°N 8°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol |
Llywodraeth yr Iwerddon |
| Corff deddfwriaethol |
Oireachtas |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Iwerddon |
| Pennaeth y wladwriaeth |
Michael D. Higgins |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Taoiseach |
| Pennaeth y Llywodraeth |
Leo Varadkar |
|
| |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) |
$333,731 million |
| CMC y pen |
$61,134 ±0.01 |
| Arian |
Ewro |
| Chwyddiant |
-0.2 ±0.1 % |
| Cyfartaledd plant |
1.96 |
| Mynegai Datblygiad Dynol |
0.916 |
| Gwefan |
www.gov.ie |
Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.
Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn 'Uachtarán' neu Arlywydd, ond y 'Taoiseach' ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw 'Gweriniaeth Iwerddon' i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Carrauntoohil (Gwyddeleg: Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.
Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd 'Gweriniaeth Iwerddon'. Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.
Cyfansoddiad 1937[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae Cyfansoddiad Iwerddon mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.
Deddf Gweriniaeth Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw 'Deddf Gweriniaeth Iwerddon' a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.
Y Werinaeth Wyddelig a Gweriniaeth Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]
Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw 'y Weriniaeth Wyddelig' (Saesneg: The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.
Defnyddir yr enw 'Gweriniaeth Iwerddon' (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.
Map o'r siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.
Gweriniaeth Iwerddon
|
Gogledd Iwerddon
|
Rhestr yn nhrefn yr wyddor[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas / County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall / County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin / County of Dún Laoghaire-Rathdown.