John Bull

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd John Bull (gwahaniaethu).
Poster recriwtio o'r Rhyfel Byd 1af

Mae John Bull yn bersonoliad cenedlaethol o Deyrnas Prydain Fawr a greuwyd gan y Dr. John Arbuthnot yn 1712, ac a gafodd ei boblogeiddio gan gartwnwyr a gwneuthurwyr printiau Prydeinig; yn ddiweddarach cafodd ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill gan arlunwyr a llenorion fel y cartwnydd gwleidyddol Americanaidd Thomas Nast a'r llenor Gwyddelig George Bernard Shaw, awdur John Bull's Other Island. Er byddai rhai pobl fel cenedlaetholwyr Prydeinig yn ei ystyried yn symbol o'r Deyrnas Unedig gyfan, dydi o ddim wedi cael ei dderbyn gan y mwyafrif yng Nghymru a'r Alban, lle mae'n cael ei ystyried yn symbol Seisnig. Mae cenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ei wrthod fel symbol o Brydeindod ac imperialaeth. Ar y llaw arall mae nifer o Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon yn ei dderbyn.

Ymgnawdoliad o werthoedd ceidwadol cefn gwlad Lloegr yw John Bull. Yn wreiddiol nid oedd yn ffigwr o awdurdod, fel Uncle Sam yn nes ymlaen, ond gwladwr traddodiadol. Mae'n cael ei borteadu fel dyn tew, byr, cydnerth mewn côt gynffon a britshys a wastcôt Jac yr Undeb (adlais o ddilad y cyfnod 1795-1820). Mae ganddo het uchel ac mae ci-teirw (symbol o ystyfnigrwydd Prydeinig) yn dynn wrth ei sodlau.

Cafodd y ddelwedd hon o John Bull fel math o ysgwier Seisnig ei wrthgyferbynu â'r sans-culottes Ffrengig blêr ac afreolus, a gynrycholiodd hefyd Jacobiniaeth boblogaidd y cyfnod, ei ymhelaethu o tua 1790 ymlaen, dan gysgod y Chwyldro Ffrengig, gan artistiad dychanol fel James Gillray, Thomas Rowlandson a George Cruikshank. Am gyfnod byr cafwyd "Peg", yn cynrychioli'r Alban, yn gydymaith i John Bull.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond ceir adlais ynddo, yn anfwriadol efallai, o'r enw Ffrangeg am y Saeson, les rosbifs (am eu bod yn hoff o gig eidion rhost).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]