Dychan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Dull llenyddol neu ffurf ar gelfyddyd yw dychan sydd ceisio amlygu ffaeleddau a ffolineb ei bwnc a thrwy hynny ei wawdio a'i geryddu, yn aml fel ffordd fwriadol o herian, cynhyrfu, neu ddadlau yn ei erbyn. Gall unigolion, sefydliadau, cymdeithas, gwleidyddiaeth, a chrefydd i gyd fod yn dargedau i ddychan.

Math amryffurf o lenyddiaeth yw dychan, a chanddo hanes hir ym marddoniaeth, y ddrama, yr ysgrif, y nofel, a darlunio. Mae'n cwmpasu pob math o hiwmor: ffraethineb, eironi, gogan, coegni, digrifwch heb wên (deadpan), hiwmor swreal, ysmaldod, pryfocio chwareus, a dirmyg chwerw; a sawl genre a dull: dynwarediad, parodi, dameg, grotésg, bwrlésg, a ffars.

Mathau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dan ddylanwad yr hen Rufeiniaid, dosberthir dychan gan amlaf yn ddau fath: dychan Horasaidd, a enwir ar ôl y telynegwr Horas, a dychan Jwfenalaidd, a enwir ar ôl y bardd Juvenal.

Gellir hefyd dosbarthu llenyddiaeth ddychanol yn uniongyrchol ac anuniongyrchol. Yn y dull uniongyrchol, siarada'r awdur neu'r adroddwr yn uniongyrchol â'r darllenydd. Yn nychan anuniongyrchol, amlyga'r awdur ei ddigrifwch a'i ddadleuon drwy draethiad a chynllun y stori.[1]

Dychan Horasaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodir dychan Horasaidd gan lais tringar, goddefol a ffraeth. Ei brif fwriad yw difyrru'r gynulleidfa, gan amlaf drwy bigo ar wiriondeb ei bwnc mewn ffordd ysgafn.

Dychan Jwfenalaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dull chwerw, os nid cas, sydd gan ddychan Jwfenalaidd. Nod yr awdur yw lladd ar wendidau a beiau ei darged, ac i fynegi dirmyg a dicter yn ei erbyn.

Ffurfiau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gwledydd Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y cymdeithasau Celtaidd, credai pobl y byddai dychan prydydd (bardd) yn cael effaith gorfforol ar y gwrthrych, megis melltith neu anffawd, ac yng Nghymru roedd canu dychan yn rhan nodweddiadol o ganu Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.

Bwystori a fabliau[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o ffurfiau dychanol yr Oesoedd Canol oedd y bwystori, a ddefnyddir i ddisgrifio ffaeleddau dynion ar ffurf anifeiliaid. Ffurf debyg oedd y fabliaux, straeon smala a genir gan jongleurs yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc o'r 12g hyd y 15g. Nodir gan faswedd a serthedd, ac agweddau sy'n groes i egwyddorion yr eglwys a'r bendefigaeth. Addaswyd sawl fabliau gan Giovanni Boccaccio yn y Decamerone a Geoffrey Chaucer yn The Canterbury Tales.

Y Dadeni[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl gwaith dychanol nodedig yn llenyddiaeth y Dadeni, gan gynnwys Das Narrenschiff (1494) gan Sebastian Brant a straeon Gargantua a Pantagruel (1532–64) gan François Rabelais.

Oes Aur yr Oleuedigaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywed yr oedd Oes Aur Dychan yn ystod yr Oleuedigaeth yn Ewrop, a chyhoeddwyd nifer o weithiau rhyddiaith ddychanol. Un o'r llenorion amlycaf oedd y Gwyddel Jonathan Swift a ysgrifennai'r nofel Gulliver's Travels (1726) a'r traethawd A Modest Proposal (1729), a rhoddir y ddau waith hwn yn aml yn enghreifftiau o'r wahaniaeth rhwng dychan Horasaidd (Gulliver's Travels) a dychan Jwfenalaidd (A Modest Proposal).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Satire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.