Decamerone

Oddi ar Wicipedia
Decamerone
Argraffiad cynnar o'r Decamerone (Fenis, 1492). Mae'r torlun pren yn dangos y saith merch a'r tri dyn yn un o'u sesiynau o adrodd straeon.
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, casgliad o storïau byrion Edit this on Wikidata
AwdurGiovanni Boccaccio Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal, Gweriniaeth Fflorens, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
IaithMedieval Italian Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1350s Edit this on Wikidata
Genrenofel fer Edit this on Wikidata
CymeriadauPeronella, brigata, Pab Boniffas VIII, Agilulf, Giotto, Lisabetta Edit this on Wikidata
Yn cynnwysProem, Day 1, Day 2, Day 3, Day 4, Day 5, Day 6, Day 7, Day 8, Day 9, Day 10, Conclusion Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithFflorens Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Casgliad o straeon a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1350 yn Eidaleg gan Giovanni Boccaccio (1313–1375) yw'r Decamerone neu Decameron.

Mae'r straeon yn ymddangos o fewn ffrâm naratif. Mae cwmni o ddeg o bobl ifanc – saith merch a thri dyn – wedi ffoi o'r Pla Du yn Fflorens ac wedi chwilio am loches mewn fila tu allan i'r ddinas. Er mwyn difyrru eu hunain gyda'r hwyr, mae pob un ohonynt yn cytuno i ddweud un stori bob dydd am ddeg diwrnod. Gan fod pob un o'r deg yn adrodd deg stori, mae yna cant o straeon yn y casgliad. Mae'r teitl yn cyfuno dau eiriau Groeg, δέκα, déka ("deg") ac ἡμέρα, hēméra ("diwrnod").

Bob noson mae un o'r cwmni'n dod yn "frenin" neu yn "frenhines" am y tro, ac yn penderfynu pa thema y dylai'r straeon ei ddilyn:

  • Diwrnod 1 – Dim thema.
  • Diwrnod 2 – Straeon am anturiaethau anffodus sy'n dod i ben yn sydyn.
  • Diwrnod 3 – Straeon am rywun sydd naill ai'n caffael rhywbeth yn boenus neu'n ei golli ac yna'n ei adennill.
  • Diwrnod 4 – Straeon cariad sydd â chanlyniad drasig.
  • Diwrnod 5 – Straeon cariad sydd â chanlyniad hapus.
  • Diwrnod 6 – Straeon lle mae cymeriad yn osgoi canlyniad anffodus trwy wneud sylw clyfar.
  • Diwrnod 7 – Straeon am fenywod yn chwarae triciau ar ddynion.
  • Diwrnod 8 – Straeon am fenywod yn chwarae triciau ar ddynion a dynion yn chwarae triciau ar fenywod.
  • Diwrnod 9 – Dim thema.
  • Diwrnod 10 – Straeon am weithredoedd haelionus.

Benthycodd Boccaccio leiniau y rhan fwyaf o'i straeon o ffynonellau Eidaleg, Ffrangeg a Lladin cynharach, er bod rhai ohonynt yn tarddu mewn tiroedd eraill ac roeddent eisoes yn ganrifoedd oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • T. Gwynfor Griffith, Detholion o'r Decameron ... Cyfieithiad, rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1951)

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]