Fflorens

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fflorens
Florence 2009 - 0946.jpg
FlorenceCoA.svg
Math cymuned yn yr Eidal, dinas fawr, Dinas, gwlad, ar un adeg, Prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 382,258 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Dario Nardella Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, CET, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Nawddsant Ioan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Metropolitan City of Florence Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd 102 ±1 km², 102.32 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 50 metr, 55 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Arno Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Bagno a Ripoli, Campi Bisenzio, Fiesole, Impruneta, Scandicci, Sesto Fiorentino Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.7714°N 11.2542°E Edit this on Wikidata
Cod post 50100, 50121–50145 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol municipal government of the City of Florence Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Florence City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Fflorens Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Dario Nardella Edit this on Wikidata

Gorwedda Fflorens (Eidaleg: Firenze) ar lannau Afon Arno yn yr Eidal. Hi yw dinas fwyaf rhanbarth Toscana yng nghanolbarth y wlad, gyda phoblogaeth o 358,079 (cyfrifiad 2011).[1] Ers canrifoedd mae Fflorens yn enwog fel un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf yr Eidal ac Ewrop. Mae ganddi nifer o adeiladau a henebion canoloesol ac o oes y Dadeni ac mae ei hamgueddfeydd yn cynnwys rhai o'r casgliadau celf gorau yn y byd. Ymhlith ei henwogion y mae Dante a Michelangelo.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr eglwys gadeiriol (Duomo) yn Fflorens

Dechreuodd hanes Fflorens yn 59 CC pan sefydlodd y Rhufeiniaid goloni ar gyfer cyn-filwyr o'r enw Florentia. Roedd Fflorens wedi tyfu'n ganolfan fasnach a diwydiant bwysig erbyn y 12g. Cawsai'r ddinas ei rhwygo'n aml yn yr ymgyrchoedd rhwng pleidiau'r Guelfi a'r Ghibellini yn ystod y ddwy ganrif nesaf, ond serch hynny flodeuodd celf a diwylliant. O'r 15fed i'r 18g bu dan reolaeth teulu'r Medici, a hybai gelf a phensaernïaeth yn y ddinas. O ganlyniad mae nifer yn ystyried mai Fflorens yw man geni y Dadeni Dysg. Yn dilyn cyfnod dan reolaeth Awstria daeth Fflorens yn rhan o deyrnas newydd yr Eidal yn 1861. Am gyfnod byr (rhwng 1865 a 1871) roedd yn brifddinas dros dro teyrnas yr Eidal. Bu i'r ddinas ddioddef cryn dipyn o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw mae hi'n ganolfan dwristiaeth bwysig ac yn dal i gyfrannu'n sylweddol i fywyd diwylliannol yr Eidal ac Ewrop.

Treftadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Afon Arno yn llifo trwy Fflorens

Mae tystiolaeth o oes y Dadeni i'w gweld ymhobman yn Fflorens. Er mai Gothig yw arddull y gadeirlan (y Duomo), cynlluniwyd y gromen enfawr gan y pensaer Filippo Brunelleschi, sydd hefyd yn gyfrifol am nifer o adeiladau clasurol y ddinas, gan gynnwys ysbyty Ospedale degli Innocenti, eglwysi San Lorenzo a Santo Spirito a'r Capella Pazzi.

Lleolir y Palazzo Vecchio, plas canoloesol a ddefnyddir fel neuadd y ddinas hyd heddiw, yn y Piazza della Signoria. Dyma yn wreiddiol oedd lleoliad cerflun enwog Michelangelo o Ddafydd. Mae'r cerflun bellach yn oriel yr Accademia ac mae copi wedi cymryd ei le yn y sgwâr. Gerllaw mae'r Uffizi, un o'r orielau celf cyhoeddus cyntaf erioed. Hefyd yn y ddinas mae'r Biblioteca Nazionale, Llyfrgell Genedlaethol yr Eidal a'r brifysgol, a sefydlwyd yn 1321.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Basilica San Lorenzo
  • Basilica Santa Croce
  • Capel Medici
  • Capel Brancacci
  • Eglwys Gadeiriol (Duomo)
  • Palazzo dello Strozzino
  • Palazzo Pitti
  • Palazzo Vecchio
  • Piazzale degli Uffizi
  • Piazza Beccaria
  • Piazza della Libertà
  • Piazza della Repubblica
  • Piazza della Signoria
  • Ponte Santa Trinita
  • Ponte Vecchio

Enwogion y ddinas[golygu | golygu cod y dudalen]

Pêl droed[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif dîm pêl droed y ddinas yw ACF Fiorentina.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Fflorens gysylltiadau pwysig ym myd addysg, diwylliant a diwydiant a Chaeredin.

Mae ei gefeillddinasoedd yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018