Matteo Renzi
| Matteo Renzi | |
| Cyfnod yn y swydd 21 Chwefror 2014 – 12 Rhagfyr 2016 | |
| Rhagflaenydd | Enrico Letta |
|---|---|
| Olynydd | Paolo Gentiloni |
| Geni | 11 Ionawr 1975 Fflorens, Toscana |
| Priod | Agnese Landini |
| Plant | Francesco, Emanuele, Ester |
| Alma mater | Prifysgol Fflorens |
| Crefydd | Catholig |
| Gwefan | matteorenzi.it |
| Llofnod | |
Prif Weinidog yr Eidal ydy Matteo Renzi (ganwyd 11 Ionawr 1975). Bu wrth y llyw fel Prif Weinidog ers 22 Chwefror 2014 ac yn Ysgrifennydd Plaid y Democratiaid ers 15 Rhagfyr 2013. Cyn hyn, ef oedd Llywydd Rhanbarth Fflorens (Firenze) rhwng 2004 a 2009 ac yn Faer Fflorens o 2009 i 2014.[1][2]
Yn 39 oed a 42 diwrnod, Renzi oedd Prif Weinidog ieuengaf yr Eidal ers ei huno yn 1861 - yn iau na Benito Mussolini pan gafodd ei benodi yn 1922, o 52 diwrnod. Ef hefyd yw arweinydd ieuengaf y G7; mae'n cael ei alw'n arweinydd de facto Plaid Sosialaidd Ewrop ac yn gwrthwynebu egwyddorion Angela Merkel a Phlaid y Bobl i'r carn. Gelwir y ddau hyn yn aml yn Merkenzi.[3][4] Yn 2014 fe'i rhestrwyd fel y trydydd person dan 40 oed mwyaf dylanwadol yn y byd gan y cylchgrawn Fortune.[5][6]
Daeth ei lywodraeth i ben 12 Rhagfyr 2016.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roe, Alex. "Matteo Renzi takes Florence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 25 Mehefin 2009.
- ↑ "Italy to swear in new Prime Minister Matteo Renzi". BBC News. 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 22 Chwefror 2014.
- ↑ "Matteo Renzi coi leader del Pse a Bologna per il lancio della nuova "terza via". In dote, il Jobs act". Huffington Post. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
- ↑ "Professor Kalypso Nicoladis on the prospects of an EU guided by Merkel & Renzi". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
- ↑ "Renzi, al terzo posto tra gli under 40 più influenti al mondo". Repubblica.it. 9 Hydref 2014. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
- ↑ "A World Disrupted: The Leading Global Thinkers of 2014". Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.