2014
20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2009 2010 2011 2012 2013 - 2014 - 2015 2016 2017 2018 2019
Yn 2014 cafwyd ymchwydd yn yr epidemig Ebola Gorllewin Affrica, a ddechreuodd yn 2013, gan ddod yr achos mwyaf eang o firws Ebola yn hanes dynoliaeth, gan arwain at 28,646 o heintiau wedi'u cadarnhau a 11,323 o farwolaethau, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd. Datganwyd fod yr afiechyd yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus yn Awst. Achosodd y firws aflonyddwch economaidd-gymdeithasol mawr yn y rhanbarth, yn bennaf yn Gini, Liberia a Sierra Leone. Roedd pryderon iechyd nodedig eraill yn 2014 yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn achosion polio ym Mhacistan.
Daeth cynnydd yn y mudiad eithafol ISIS yn argyfwng daearwleidyddol mawr yn 2014 ar ôl i'r grŵp ddatgan califfad byd-eang a lansio troseddau dinistriol yn Irac a Syria. Ysgogodd cyflafan Camp Speicher lle llofruddiodd y Wladwriaeth Islamaidd 1,566 o gadetiaid Awyrlu Shia Irac a Chwymp Mosul, ail ddinas fwyaf Irac, ymyrraeth filwrol dan arweiniad yr Unol Daleithiau, ymateb a fyddai'n troi'n fyd-eang yn ddiweddarach. Denodd ISIS filoedd o ymladdwyr tramor o bob rhan o'r byd i ymuno â'u byddin. Arweiniodd ISIS at ddadleoli enfawr yn Irac a Syria, gan greu argyfwng dyngarol mawr i filiynau o bobl [1].
Gwrthdaro nodedig arall oedd Rhyfel Gaza 2014, a ddechreuwyd gan Israel 26 diwrnod ar ôl i dri o bobl ifanc Israel gael eu lladd yn y Lan Orllewinol. Tyfodd ymateb Israel yn ymosodiad ar raddfa fawr, a enwyd yn "Operation Protective Edge" ymladd dwys, gyda'r Israeliaid yn bomio o awyrenau gan ladd 2,310 (70% yn sifiliaid) ac anafu 10,626 o Balesteiniaid. Daeth y gwrthdaro i ben ar Awst 26, 2014, ar ôl i gytundeb cadoediad a drefnwyd gan yr Aifft ddod i rym.
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- 1 Ionawr - Yr ewro'n dod yn arian cyfred swyddogol yn Latfia.
- 2 Ionawr - Ole Gunnar Solskjær yn dod yn rheolwr newydd ar G.P.D. Dinas Caerdydd[2]
- 1 Chwefror - Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014 yn dechrau.
- 7-23 Chwefror - Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi, Rwsia.
- 13 Mawrth - Dafydd Elis-Thomas yn cael ei ddiswyddo fel Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad. Dywedodd Leanne Wood, arweinydd y Blaid: "Roedd Plaid Cymru wedi ceisio tynnu sylw, dros y penwythnos, at y peryglon oedd yn wynebu Cymru gan UKIP, gan ein bod yn credu yn sylfaenol ac yn ddiffuant nad yw eu gwleidyddiaeth a'u polisïau er y budd gorau i bobl ein cymunedau. Fe benderfynodd Dafydd Elis-Thomas wrthwynebu'r safiad hwn yn gyhoeddus heb godi unrhyw bryderon ymlaen llaw."
- 22 Ebrill - Ryan Giggs yn dod yn rheolwr Manchester United F.C., swydd dros dro.
- 12 Mehefin-13 Gorffennaf - Cwpan y Byd Pêl-droed 2014 yn Brasil.
- 19 Mehefin - Felipe VI yn dod yn frenin Sbaen.
- 8 Gorffennaf - Lansio'r Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014; bu farw tua 2,200 gyda 70% yn sifiliaid.
- 15 Gorffennaf - Stephen Crabb yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 23 Gorffennaf i 3 Awst) - Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow, Yr Alban
- 4-5 Medi - Uwchgynhadledd NATO, 2014
- 18 Medi - Refferendwm annibyniaeth i'r Alban: roedd 1,617,989 (44.7%) o blaid a 2,001,926 (55.3%) yn erbyn. Pleidleisiodd 71% o bobl ifanc 16-17 oed dros annibyniaeth.
- 19 Hydref – Pab Pawl VI yn cafodd ei sancteiddiad gan yr Eglwys Rufain.
- 9 Tachwedd - Refferendwm ar Annibyniaeth Catalwnia 2014: Pleidleisiodd dros 80% o blaid bod yn Wladwriaeth annibynnol, gyda dros dwy filiwn o bobl wedi bwrw'u pleidlais.[3]
- 16 Rhagfyr - Cyflafan ysgol Peshawar: ymosododd saith aelod o'r Taleban Pacistanaidd â gynnau ar ysgol yn ninas Peshawar, Pacistan, gan ladd 132 o blant a naw oedolyn.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Newydd
[golygu | golygu cod]- Karl Jenkins – The Healer - A Cantata for St Luke[4]
- John Metcalf - Under Milk Wood: An Opera[5]
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- 20 Chwefror - Tywysoges Leonore, merch Tywysoges Madeleine o Sweden
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- 2 Ionawr - Elizabeth Jane Howard, nofelydd, 90
- 5 Ionawr - Eusébio, pêl-droediwr, 71
- 11 Ionawr - Ariel Sharon, gwleidydd, 85
- 12 Chwefror - Anne-Marie Caffort Ernst, arlunydd, 87
- 20 Ionawr - Claudio Abbado, arweinydd cerddorfa, 80
- 27 Ionawr - Pete Seeger, canwr, 94
- 28 Ionawr - Nigel Jenkins, bardd, 64[6]
- 2 Chwefror - Philip Seymour Hoffman, actor, 46
- 8 Chwefror - Bernard Hedges, cricedwr, 86
- 10 Chwefror - Shirley Temple, actores, 85
- 14 Mawrth
- Tony Benn, gwleidydd, 88
- Rhona Brown, arlunydd, 91
- 6 Ebrill - Mickey Rooney, actor, 93
- 17 Ebrill - Gabriel García Márquez, llenor, 87
- 29 Ebrill - Bob Hoskins, actor, 71
- 6 Mai - Leslie Thomas, nofelydd, 83[7]
- 12 Mai - H. R. Giger, artist, 74
- 28 Mai - Maya Angelou, bardd, 86
- 24 Mehefin - Eli Wallach, actor, 98
- 27 Mehefin - Bobby Womack, canwr, 70
- 7 Gorffennaf
- Alfredo Di Stefano, pêl-droediwr, 88
- Eduard Shevardnadze, gwleidydd, 86
- 13 Gorffennaf
- Nadine Gordimer, llenor, 90
- Lorin Maazel, arweinydd cerddorfa, 84
- 15 Gorffennaf - Gerallt Lloyd Owen, bardd, 70[8]
- 11 Awst - Robin Williams, actor a comediwr, 63
- 12 Awst - Lauren Bacall, actores, 89
- 21 Awst - Albert Reynolds, gwleidydd, 81[9]
- 22 Awst
- Catherine Serebriakoff, arlunydd, 101
- Lana Azarkh, arlunydd, 91
- Annelies Nelck, arlunydd, 89
- Joan Erbe, arlunydd, 88
- 4 Medi - Joan Rivers, actores, 81
- 12 Medi - Ian Paisley, gwleidydd, 88
- 28 Medi - Dannie Abse, bardd, 91[10]
- 17 Hydref - Daisuke Oku, pêl-droediwr, 38
- 19 Hydref - Stuart Gallacher, chwaraewr rygbi, 68
- 20 Hydref - Oscar de la Renta, dylunydd ffasiwn, 82
- 21 Hydref
- Gough Whitlam, Prif Weinidog Awstralia, 98
- Ben Bradlee, newyddiadurwr, 93
- 22 Hydref - Rhiannon Davies Jones, nofelydd, 92[11]
- 23 Hydref - Alvin Stardust, canwr, 72[12]
- 25 Hydref - Jack Bruce, cerddor, 71
- 28 Hydref - Michael Sata, Arlywydd Sambia, 77
- 2 Tachwedd - Acker Bilk, cerddor, 85
- 27 Tachwedd
- P. D. James, nofelydd, 94
- Phillip Hughes, cricedwr, 25
- 18 Rhagfyr - Mandy Rice-Davies, model, 70[13]
Cymry a fu farw yn 2014
[golygu | golygu cod]Rhestr Wicidata:
Gwobrau Nobel
[golygu | golygu cod]- Ffiseg: Isamu Akasaki, Hiroshi Amano a Shuji Nakamura
- Cemeg: Eric Betzig, Stefan Hell a W. E. Moerner
- Meddygaeth: John O'Keefe, May-Britt Moser ac Edvard Moser
- Llenyddiaeth: Patrick Modiano
- Economeg: Jean Tirole
- Heddwch: Kailash Satyarthi a Malala Yousafzai
Eisteddfod Genedlaethol (Sir Gâr)
[golygu | golygu cod]- Cadair: Ceri Wyn Jones
- Coron: Guto Dafydd
- Medal Ryddiaeth: Lleucu Roberts, Saith Oes Efa
- Gwobr Goffa Daniel Owen: Lleucu Roberts, Rhwng Edafedd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geo-politics, Orlando Crowcroft Executive Editor- (2015-06-17). "Isis: Worst refugee crisis in a generation as millions flee Islamic State in Iraq and Syria". International Business Times UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-23.
- ↑ BBC Cymru. Adalwyd 2 Ionawr 2013
- ↑ Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 10 Tachwedd 2014
- ↑ "Karl Jenkins on the album that marks his 70th birthday and his 50 years in the music industry". WalesOnline (yn Saesneg). 7 Mai 2014. Cyrchwyd 13 Chwefror 2022.
- ↑ Griffin, Carl (17 Hydref 2013). "Under Milk Wood: John Metcalf talks about his new opera" (yn en). Wales Arts Review (24). http://www.walesartsreview.org/under-milk-wood-john-metcalf-talks-about-his-new-opera/.
- ↑ "Swansea poet and author Nigel Jenkins dies aged 64" (yn Saesneg). Bbc.co.uk. Cyrchwyd 29 Ionawr 2014.
- ↑ "BBC News - Virgin Soldiers author Leslie Thomas dies aged 83" (yn Saesneg). BBC News. 7 Mai 2014. Cyrchwyd 7 Mai 2014.
- ↑ [1]
- ↑ "Former Taoiseach Albert Reynolds dies". RTÉ News (yn Saesneg). 21 August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2014. Cyrchwyd 21 Awst 2014.
- ↑ "Dannie Abse - obituary". The Telegraph (yn Saesneg). 28 Medi 2014.
- ↑ Stephens, Meic (28 Hydref 2014). "Rhiannon Davies Jones: Welsh-language author whose impassioned historical novels carried a nationalist message". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 25 Mai 2020.
- ↑ Singh, Anita (23 Hydref 2014). "Alvin Stardust dies after short illness". The Daily Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 29 Hydref 2018.
- ↑ Boyle, Danny (19 Rhagfyr 2014). "Profumo affair's Mandy Rice-Davies dies aged 70". The Telegraph (yn Saesneg).