Neidio i'r cynnwys

Ryan Giggs

Oddi ar Wicipedia
Ryan Giggs
GanwydRyan Joseph Wilson Edit this on Wikidata
29 Tachwedd 1973 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd, Manceinion Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Yysgol Uwchradd Swinton, Moorside Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau68 cilogram Edit this on Wikidata
TadDanny Wilson Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ryangiggs.cc Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auManchester United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr, tîm pêl-droed dan-16 Lloegr, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Saflecanolwr, hanerwr asgell Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
llofnod
Giggs ym Mai 2018

Cyn-chwaraewr a hyfforddwr pêl-droed o Gymru yw Ryan Joseph Giggs OBE[1] (ganwyd Ryan Joseph Wilson; 29 Tachwedd 1973). Bu'n is-reolwr ar Manchester United; clwb lle treuliodd 24 o flynyddoedd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr. Roedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol â thîm cenedlaethol Cymru. Aeth ymlaen i fod yn reolwr tîm cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol ar 2 Mehefin 2007 cyn ymddeol o bêl-droed yn gyfan gwbwl ar 19 Mai 2004[2]

Ar 15 Ionawr 2018 cyhoeddwyd mai Giggs oedd rheolwr newydd tîm cenedlaethol Cymru, yn dilyn Chris Coleman.[3] Cafodd ei arestio yn Tachwedd 2020 a sefodd nôl o'i waith fel rheolwr Cymru. Yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad. Roedd yn gwadu'r cyhuddiadau. Ar 20 Mehefin 2022 ymddiswyddodd o'r swydd rheolwr.[4]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Lynne Giggs yw ei fam a chwaraewr rygbi cynghrair oedd ei dad, Danny Wilson. Fe'i anwyd yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd a fe'i magwyd yn ardal Trelái. Yn 1980, pan oedd yn 6 mlwydd oed, ymunodd ei dad gyda chlwb rygbi cynghrair Swindon RLFC ac felly symudodd y teulu i Swinton, tref yn Salford. O'r herwydd mae'n siarad gydag acen Manceinion. Roedd ei dad o dras gymysg (o ddisgyniad Sierra Leone) ac mae Giggs wastad wedi dangos balchder yn ei dreftadaeth gymysg.[5]

Torri record ar ôl record

[golygu | golygu cod]

Giggs yw'r chwaraewr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Manchester United. Ers ei ymddangosiad cyntaf dros clwb yn nhymor 1990-1991, mae wedi bod yn chwaraewr cyson ers tymor 1991-1992. Ef sydd wedi chwarae'r ail nifer fwyaf o gemau cystadleuol dros glwb (yn ail i Bobby Charlton), ac mae'n dal y record am y nifer fwyaf o wobrau tîm a enillwyd gan chwaraewr (23).[6] Ers 1992, mae hefyd wedi casglu naw medal enillydd Uwch Gyngrhair Lloegr, pedwar medal enillydd Cwpan Lloegr, dau fedal Cwpan Cynghrair ac un medal fel enillydd yr UEFA Champions League. Mae ganddo hefyd fedalau am ddod yn ail mewn dau rownd derfynol Cwpan Lloegr a dau rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, yn ogystal â bod yn rhan o bedwar tîm Manchester United sydd wedi gorffen yn ail yn y gynghrair.

Y blynyddoedd cynnar

[golygu | golygu cod]

Bu Giggs yn gapten ar dîm bechgyn ysgol Lloegr (roedd pob bachgen ysgol yn Lloegr yn gymwys i chwarae i'r tîm hwn beth bynnag oedd eu cenedligrwydd), ond chwaraeodd fel aelod o Dîm Cenedlaethol Cymru pan oedd yn oedolyn. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ac yntau ond yn 17 oed yn 1991. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed ar y pryd i chwarae dros ei wlad. Apwyntiwyd ef yn gapten tîm Cymru yn 2004.

Giggs yn Nhachwedd 2009.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Yn 2011 cafodd Giggs ei enwi fel CTB yn yr achos CTB v News Group Newspapers pan enillodd gorchymyn ffrwyno i atal y wasg rhag datgelu manylion am ei berthynas ag Imogen Thomas.

Ystadegau gyrfa

[golygu | golygu cod]

Gyrfa gyda Manchester United:

Hyd y gêm a chwaraewyd 9 Mai 2010

Cystadleuaeth Dechrau Diwedd Ymddangosiadau Goliau
Cynghrair Lloegr 1991 588 108
Cwpan FA 1991 65 10
Cwpan Cynghrair Lloegr 1991 36 9
Cystadlaethau Ewropeaidd 1994 132 28
Gemau cystadleuol eraill 1991 17 1
Cyfanswm 1991 838 156

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Enillodd wobr PFA Young Player of the Year ddwywaith (1992 a 1993), gan ddod y chwaraewr cyntaf i ennill y wobr ddwy flynedd yn olynol, camp a gafodd ei efelychu gan Robbie Fowler a'i gyd-aelod tîm presennol, Wayne Rooney yn unig. Mae cefnogwyr pêl-droed hefyd wedi pleidleisio gôl Giggs yn rownd cyn-derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Arsenal (pan gurodd pedwar amddiffynnwr gan gynnwys (Lee Dixon ddwywaith, i sgorio), i fod yn gôl gorau erioed i Manchester United.[angen ffynhonnell]

Derbyniodd Giggs OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines, 2007.

Manchester United (1990-2014)

[golygu | golygu cod]

Mae Giggs yn dal sawl record arall hefyd, gan gynnwys y sgoriwr amlaf yn yr FA Premier League nad oedd yn chwarae yn safle saethwr ar y pryd, ac mae'n dal y record am sgorio gôl gyflymaf Manchester United (15 eiliadau), yn Tachwedd 1995 yn erbyn Southampton.

Unigol

[golygu | golygu cod]
  • Barclays Premiership Player of the Month: Awst 2006, Chwefror 2007.
  • Chwarawr y Gêm, Intercontinental Cup: 1999
  • Gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Manchester United: 2005-2006
  • European Footballer of the Year Dan 21: (1993)
  • Chwarawr y Flwyddyn, Cymru: 1996, 2006
  • Sefydlwyd yn English Football Hall of Fame: 2005
  • Sefydlwyd yn Nhîm y Degawd y Gyngrhair: 2003
  • Sefydlwyd yn Nhîm y ganrif FA Challenge Cup: 2006
  • Yr unig chwaraewr Manchester United i ennill dau Gwpan y Gynghrair
  • Yr unig chwaraewr i sgorio mewn 12 twrnamaint Champions League canlynol
  • Yr unig chwaraewyr i sgorio ym mhob tymor Uwchgynghrair Lloegr ers ei ddyfodiad
  • Aelod o PFA Team of the Year: 2007, 2001, 1996, 1995, 1994, 1993
  • OBE am wasanaethau i bêl-droed
Tîm cendlaethol pêl-droed Cymru
YearAppsGoals
1991 2 0
1992 3 0
1993 6 2
1994 1 1
1995 3 0
1996 3 1
1997 3 1
1998 1 0
1999 3 1
2000 4 1
2001 4 0
2002 5 0
2003 7 1
2004 3 0
2005 6 3
2006 5 0
2007 4 1
Total 64 12
Rhagflaenydd:
Neville Southall
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn,
BBC Cymru

1996
Olynydd:
Scott Gibbs
Rhagflaenydd:
Shane Williams
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn,
BBC Cymru

2009
Olynydd:
Gareth Bale
Rhagflaenydd:
Lee Sharpe
PFA Young Player of the Year
1992 & 1993
Olynydd:
Andy Cole
Rhagflaenydd:
Gary Neville
Dirprwy-gapten Manchester United F.C.
2005 - 2014
Olynydd:
'''

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Botham honoured with knighthood BBC 15 Gorffennaf 2007
  2. "Giggs yn ymddeol o bêl-droed". 2014-05-19. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. Penodi Ryan Giggs yn rheolwr newydd Cymru , Golwg360, 15 Ionawr 2018.
  4. Ryan Giggs yn ymddiswyddo fel rheolwr Cymru , BBC Cymru Fyw, 20 Mehefin 2022.
  5. Stop the BNP Ryan Giggs
  6. [1]