Cynghrair y Pencampwyr UEFA

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o UEFA Champions League)

Cystadleuaeth bêl-droed blynddol ar gyfer prif glybiau Ewrop yw Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Fe'i drefnir gan Undeb y Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeiadd (UEFA).

Cyflwynwyd Cynghrair y Pencampwyr UEFA ym 1992 fel olynydd i Gwpan Pencampwyr Ewrop neu Cwpan Ewrop oedd wedi bodoli ers 1955[1]. Cyn 1992 dim ond pencampwr pob gwlad oedd yn cystadlu ond cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn ym 1992. Ychwanegwyd rownd o grwpiau i'r gystadleuaeth a chafodd y gwledydd cryfaf yrru hyd at bedwar clwb i'r gystadleuaeth.

Yn ei ffurf bresennol, mae Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cychwyn yng nghanol mis Gorffennaf gyda tair rownd o gemau dros ddau gymal a gêm ail gyfle dros ddau gymal. Mae'r 10 tîm sydd weddill yn dilyn y rowndiau rhagbrofol yn ymuno â'r 22 o glybiau sydd yn ymuno'n syth yn rownd y grwpiau. Mae'r 32 tîm yn cael eu gosod mewn wyth grŵp o bedwar ac yn chwarae yn erbyn eu gilydd gartref ac oddi cartref gydag wyth enillydd y grŵp a'r wyth tîm orffennodd yn yr ail safle yn camu ymlaen i'r rowndiau olaf.[2].

Mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn sicrhau eu lle yn Super Cup UEFA a Chwpan Clwb y Byd FIFA[3][4].

Real Madrid ydi'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl ennill y tlws ar 10 achlysur, gan gynnwys y pum tlws cyntaf. Sbaen ydi'r wlad â'r nifer fwyaf o bencampwyr (15) tra bod gan Lloegr a'r Eidal 12 buddugoliaeth yr un. Mae 22 o glybiau gwahanol wedi torri eu henwau ar y tlws, gyda 12 ohonynyt wedi codi'r tlws ar fwy nag un achlysur[5]. Ers newid ffurf ac enw'r gystadleuaeth ym 1992, nid oes yr un clwb wedi llwyddo i amddiffyn eu coron; A.C. Milan oedd y clwb diwethaf i amddiffyn eu coron yn ystod tymor 1989-90[6].

Hanes[golygu | golygu cod]

Cystadlaethau Cynnar[golygu | golygu cod]

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymiad yr Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd, sefydlodd Awstria, Hwngari a Tsiecoslofacia gynghrieiriau pêl-droed proffesiynol; y gwledydd cyntaf ar gyfandir Ewrop i wneud hyn, ac er mwyn sicrhau arian i'r clybiau proffesiynol newydd cafwyd cyfarfod yn Fenis, Yr Eidal ym 1927 er mwyn sefydlu Cwpan Mitropa[7]. Am y ddau dymor cyntaf cafwyd dau glwb o Awstria, Hwngari, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia gyda chlybiau o'r Eidal yn cymryd lle clybiau Iwgoslafia o 1929 ymlaen.

Ceisiodd clwb Servette o'r Swistir i sefydlu tlws ar gyfer pencampwyr gwledydd Ewrop ym 1930 gyda 10 o glybiau yn cystadlu yn y Coupe des Nations gyda Újpest o Hwngari yn codi'r tlws. Er ei lwyddiant, ni chafwyd ail gystadleuaeth oherwydd problemau ariannol.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafywd cystadleuaeth newydd ar gyfer timau Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal o'r enw'r Cwpan Lladin (Saesneg: Latin Cup; Ffrangeg: Coupe Latine; Eidaleg: Coppa Latina; Portiwgaleg: Taça Latina; Sbaeneg: Copa Latina) ond yn dilyn sefydlu Cwpan Pencampwyr Ewrop daeth y Cwpan Lladin i ben ym 1957.[8]

Sefydlu Cwpan Ewrop[golygu | golygu cod]

Ar ôl cael adroddiadau ffafriol o'r Campeonato Sudamericano de Campeones ym 1948, dechreuodd Gabriel Hanot, golygydd papur newydd L'Équipe, withio i ffurfio cystadleuaeth tebyg ar gyfer cyfandir Ewrop[9]. Wedi i Stan Cullis, rheolwr Wolverhampton Wanderers, gyhoeddi mai Wolves oedd "Pencampwyr y Byd" yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau mewn gemau cyfeillgar yn y 1950au llwyddodd Hanot i ddwyn perswâd ar UEFA i sefydlu'r gystadleuaeth[1] a daeth Cwpan Pencampwyr Clybiau Ewrop i fodolaeth yn dilyn cyfarfod ym Mharis ym 1955[1].

Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA[golygu | golygu cod]

Cynhelir twrnament Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA hefyd ar hyd strwythur debyg i'r gystadleuaeth i ddynion.

Anthem[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd anthem Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Tony Britten ac mae'n addasiad o Zadok the Priest gan Georg Friedrich Händel[10][11]. Perfformiwyd y darn gan y Gerddorfa Ffilarmonig Brenhinol gyda lleisiau Academi St. Martin in the Fields[10]. Mae'r corws yn defnyddio tair iaith swyddogol UEFA: Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg. Chwaraeir yr anthem cyn pob un gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA.

Perfformiadau[golygu | golygu cod]

Mae 22 o glybiau gwahanol wedi ennill y gystadleuaeth ers ei sefydlu ym 1955 gyda Real Madrid â'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl codi'r tlws ar 10 achlysur. Dim ond dau glwb arall sydd wedi cyrraedd 10 rownd derfynol; A.C. Milan a F.C. Bayern München. Mae 12 clwb wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur; Real Madrid, AC Milan, Bayern München, Lerpwl, Ajax, Barcelona, Internazionale, Manchester United, Benfica, Nottingham Forest, Juventus a Porto. Mae 17 o glybiau gwahanol wedi cyrraedd y rownd derfynol heb godi'r tlws[5].

Mae clybiau o 10 gwahanol gwlad wedi ennill y gystadleuaeth gyda chlybiau Sbaen y mwyaf llwyddiannus wrth ennill 15 tlws. Mae Lloegr a'r Eidal yn gyfartal gyda 12 buddugoliaeth tra bo clybiau'r Almaen wedi codi saith tlws, Yr Iseldiroedd chwech a Phortiwgal pedwar. Mae'r Alban, Rwmania, Iwgoslafia a Ffrainc wedi sicrhau un tlws yr un.

Yn ôl gwlad[golygu | golygu cod]

Perfformiad yn ôl gwlad
Gwlad Enillwyr Ail
 Sbaen 15 10
Baner Yr Eidal Yr Eidal 12 15
Baner Lloegr Lloegr 12 7
 Yr Almaen 7 10
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd 6 2
 Portiwgal 4 5
 Ffrainc 1 5
Baner Yr Alban Yr Alban 1 1
 Romania 1 1
Baner Iwgoslafia Iwgoslafia 1 1
 Gwlad Groeg 0 1
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg 0 1
 Sweden 0 1

Ers dechrau'r gystadleuaeth mae pump rownd derfynol wedi gweld dau glwb o'r un wlad: Sbaen yn 2000 a 2014, Yr Eidal yn 2003, Lloegr yn 2008 a'r Almaen yn 2013.[12]

Rowndiau terfynol[golygu | golygu cod]

Allwedd
Cafodd y gêm ei hennill wedi Amser ychwanegol
* Cafodd y gêm ei hennill ar Giciau o'r smotyn
Cafodd y gêm ei hennill wedi gêm ail-chwarae
Rhestr rowndioau terfynol Cwpan Ewrop a Chynghrair Pencampwyr UEFA
Tymor Gwlad Enillwyr Sgôr Ail Gwlad Lleoliad Torf[13]
1955–56  Sbaen Real Madrid 4–3 Stade de Reims  Ffrainc Baner Ffrainc Parc des Princes, Paris 38,239
1956–57  Sbaen Real Madrid 2–0 Fiorentina Baner Yr Eidal Yr Eidal  Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 124,000
1957–58  Sbaen Real Madrid 3–2 Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Gwlad Belg Heysel Stadium, Brussels 67,000
1958–59  Sbaen Real Madrid 2–0 Stade de Reims  Ffrainc Baner Yr Almaen Neckarstadion, Stuttgart 72,000
1959–60  Sbaen Real Madrid 7–3 Eintracht Frankfurt Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Baner Yr Alban Parc Hampden, Glasgow 127,621
1960–61  Portiwgal Benfica 3–2 Barcelona  Sbaen Baner Y Swistir Wankdorf Stadium, Bern 26,732
1961–62  Portiwgal Benfica 5–3 Real Madrid  Sbaen Baner Yr Iseldiroedd Olympisch Stadion, Amsterdam 61,257
1962–63 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 2–1 Benfica  Portiwgal Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 45,715
1963–64 Baner Yr Eidal Yr Eidal Internazionale 3–1 Real Madrid  Sbaen Baner Awstria Prater Stadium, Vienna 71,333
1964–65 Baner Yr Eidal Yr Eidal Internazionale 1–0 Benfica  Portiwgal Baner Yr Eidal San Siro, Milan 89,000
1965–66  Sbaen Real Madrid 2–1 Partizan Baner Iwgoslafia Iwgoslafia Baner Gwlad Belg Heysel Stadium, Brussels 46,745
1966–67 Baner Yr Alban Yr Alban Celtic 2–1 Internazionale Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Portiwgal Estádio Nacional, Lisbon 45,000
1967–68 Baner Lloegr Lloegr Manchester United 4–1 Benfica  Portiwgal Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 92,225
1968–69 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 4–1 Ajax Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd  Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 31,782
1969–70 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Feyenoord 2-1 Celtic Baner Yr Alban Yr Alban Baner Yr Eidal San Siro, Milan 53,187
1970-71 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Ajax 2-0 Panathinaikos  Gwlad Groeg Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 83,179
1971-72 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Ajax 2-0 Internazionale Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Iseldiroedd De Kuip, Rotterdam 61,354
1972–73 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Ajax 1-0 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Iwgoslafia Red Star Stadium, Belgrade 89,484
1973–74 Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Bayern München 4–0[A] Atlético Madrid  Sbaen Baner Gwlad Belg Heysel Stadium, Brussels 72,047
1974–75 Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Bayern München 2–0 Leeds United Baner Lloegr Lloegr Baner Ffrainc Parc des Princes, Paris 48,374
1975–76 Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Bayern München 1–0 Saint-Étienne  Ffrainc Baner Yr Alban Parc Hampden, Glasgow 54,864
1976–77 Baner Lloegr Lloegr Lerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Baner Yr Eidal Stadio Olimpico, Rhufain 52,078
1977–78 Baner Lloegr Lloegr Lerpwl 1-0 Club Brugge Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 92,500
1978-79 Baner Lloegr Lloegr Nottingham Forest 1-0 Malmö FF  Sweden Baner Yr Almaen Olympiastadion, München 57,500
1979–80 Baner Lloegr Lloegr Nottingham Forest 1-0 Hamburg Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 51,000
1980–81 Baner Lloegr Lloegr Lerpwl 1–0 Real Madrid  Sbaen Baner Ffrainc Parc des Princes, Paris 48,360
1981–82 Baner Lloegr Lloegr Aston Villa 1-0 Bayern München Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Baner Yr Iseldiroedd De Kuip, Rotterdam 46,000
1982–83 Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Hamburg 1–0 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Groeg Stadiwm Olympaidd, Athen 73,500
1983-84 Baner Lloegr Lloegr Lerpwl 1-1*[B] Roma Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Eidal Stadio Olimpico, Rhufain 69,693
1984–85 Baner Yr Eidal Yr Eidal Juventus 1-0 Lerpwl Baner Lloegr Lloegr Baner Gwlad Belg Heysel Stadium, Brussels 58,000
1985–86  Rwmania Steaua București 0–0*[C] Barcelona  Sbaen Baner Sbaen Estadio Ramón Sánchez Pizjuán, Seville 70,000
1986–87  Portiwgal Porto 2-1 Bayern München Baner Yr Almaen Gorllewin yr Almaen Baner Awstria Prater Stadium, Vienna 57,500
1987–88 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd PSV Eindhoven 0–0*[Ch] Benfica  Portiwgal Baner Yr Almaen Neckarstadion, Stuttgart 68,000
1988–89 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 4–0 Steaua București  Rwmania Baner Sbaen Camp Nou, Barcelona 97,000
1989–90 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 1-0 Benfica  Portiwgal Baner Awstria Prater Stadium, Vienna 57,558
1990–91 Baner Iwgoslafia Iwgoslafia Red Star Belgrade 0–0*[D] Marseille  Ffrainc Baner Yr Eidal Stadio San Nicola, Bari 56,000
1991–92  Sbaen Barcelona 1–0 Sampdoria Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 70,827
1992-93  Ffrainc Marseille 1-0 Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Almaen Olympiastadion, München 64,400
1993–94 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 4–0 Barcelona  Sbaen Baner Groeg Stadiwm Olympaidd, Athen 70,000
1994-95 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Ajax 1-0 Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Awstria Ernst-Happel-Stadion, Vienna 49,730
1995–96 Baner Yr Eidal Yr Eidal Juventus 1-1*[Dd] Ajax Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Baner Yr Eidal Stadio Olimpico, Rhufain 70,000
1996-97  Yr Almaen Borussia Dortmund 3-1 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Groeg Olympiastadion, München 59,000
1997–98  Sbaen Real Madrid 1-0 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Iseldiroedd Amsterdam Arena, Amsterdam 48,500
1998–99 Baner Lloegr Lloegr Manchester United 2-1 Bayern München  Yr Almaen Baner Sbaen Camp Nou, Barcelona 90,245
1999–2000  Sbaen Real Madrid 3-0 Valencia  Sbaen Baner Ffrainc Stade de France, Saint-Denis 80,000
2000–01  Yr Almaen Bayern München 1–1*[E] Valencia  Sbaen Baner Yr EidalSan Siro, Milan 71,500
2001–02  Sbaen Real Madrid 2-1 Bayer Leverkusen  Yr Almaen Baner Yr Alban Parc Hampden, Glasgow 50,499
2002–03 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 0-0*[F] Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Lloegr Old Trafford, Manceinion 62,315
2003–04  Portiwgal Porto 3-0 AS Monaco  Ffrainc Baner Yr Almaen Arena AufSchalke, Gelsenkirchen 53,053
2004–05 Baner Lloegr Lloegr Lerpwl 3-3*[Ff] Milan Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Twrci Atatürk Olympic Stadium, Istanbul 69,000
2005–06  Sbaen Barcelona 2-1 Arsenal Baner Lloegr Lloegr Baner Ffrainc Stade de France, Saint-Denis 79,610
2006–07 Baner Yr Eidal Yr Eidal Milan 2–1 Lerpwl Baner Lloegr Lloegr Baner Groeg Stadiwm Olympaidd, Athen 63,000
2007–08 Baner Lloegr Lloegr Manchester United 1–1*[G] Chelsea Baner Lloegr Lloegr Baner Rwsia Luzhniki Stadium, Moscow 67,310
2008–09  Sbaen Barcelona 2–0 Manchester United Baner Lloegr Lloegr Baner Yr Eidal Stadio Olimpico, Rhufain 62,467
2009–10 Baner Yr Eidal Yr Eidal Internazionale 2–0 Bayern München  Yr Almaen Baner Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 73,490
2010–11  Sbaen Barcelona 3–1 Manchester United Baner Lloegr Lloegr Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 87,695
2011–12 Baner Lloegr Lloegr Chelsea 1–1*[Ng] Bayern München  Yr Almaen Baner Yr Almaen Allianz Arena, München 62,500
2012–13  Yr Almaen Bayern München 2–1 Borussia Dortmund  Yr Almaen Baner Lloegr Wembley Stadium, Llundain 86,298
2013–14  Sbaen Real Madrid 4–1 Atlético Madrid  Sbaen Baner Portiwgal Estádio da Luz, Lisbon 60,976
2014–15  Sbaen Barcelona 3–1 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Yr Almaen Olympiastadion, Berlin 70,442
2015–16  Sbaen Real Madrid 1–1*[H] Atlético Madrid  Sbaen Baner Yr Eidal San Siro, Milan 71,942
2016–17  Sbaen Real Madrid 4-1 Juventus Baner Yr Eidal Yr Eidal Baner Cymru Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd 65,842
2017–18  Sbaen Real Madrid 3-1 Lerpwl Baner Lloegr Lloegr Baner Wcráin NSC Olimpiyskiy Stadium, Kiev 61,561
2018-19 Baner Sbaen Wanda Metropolitano, Madrid
2019-20 Baner Twrci Atatürk Olympic Stadium, Istanbul

Nodiadau[golygu | golygu cod]

A. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi amser ychwanegol yn y rownd derfynol gyntaf chwaraewyd dau ddiwrnod yn gynharach.[14]

B. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.[15]

C. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Steaua București enillodd 2-0 ar giciau o'r smotyn.[16]

Ch. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. PSV Eindhoven enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.[17]

D. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Red Star Belgrade enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.[18]

Dd. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Juventus enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.[19]

E. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Bayern München enillodd 5-4 ar giciau o'r smotyn.[20]

F. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Milan enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.[21]

Ff. ^ 3-3 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.[22]

G. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Manchester United enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.[23]

Ng. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Chelsea enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.[24]

Cysylltiadau Cymreig[golygu | golygu cod]

Mae pedwar Cymro wedi ennill Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Joey Jones oedd y Cymro cyntaf i ennill y tlws gyda Lerpwl ym 1976-77[25] ac roedd Jones hefyd yn eilydd y tymor canlynol pan lwyddodd Lerpwl i drechu Club Brugge. Roedd Ian Rush yn rhan o dîm Lerpwl drechodd A.S. Roma ar giciau o'r smotyn ym 1983-84[26] ac yn aelod o dîm Lerpwl gollodd yn erbyn Juventus ym 1984-85.

Ryan Giggs ydi'r unig Gymro sydd wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur. Roedd yn rhan o dîm Manchester United drechodd Bayern München ym 1998-99[27], a hefyd o'r tîm drechodd Chelsea yn 2007-08[28]. Mae Giggs hefyd wedi colli mewn dwy rownd derfynol, yn erbyn Barcelona yn 2008-09[29] ac yn 2010-11[30].

Gareth Bale oedd y Cymro cyntaf i sgorio mewn rownd derfynol wrth iddo helpu Real Madrid godi'r tlws yn 2013-14[31].

Terry Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn y rownd derfynol, fel rhan o dîm Leeds United gollodd yn erbyn Bayern München ym 1974-75[32]. Roedd y golgeidwad, Glan Letheren, yn eilydd i Leeds yn yr un flwyddyn. Roedd Craig Bellamy yn eilydd yn rownd derfynol 2006-07 pan gollodd Lerpwl yn erbyn A.C. Milan.

Cymru sydd wedi ennill Cwpan Ewrop a Chynghrair y Pencampwyr UEFA

Tymor Enw Gêm
1976–77 Baner Cymru Joey Jones Lerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach
1983–84 Baner Cymru Ian Rush Lerpwl 1-1 A.S. Roma
1998-99 Baner Cymru Ryan Giggs Manchester United 2-1 Bayern München
2007–08 Baner Cymru Ryan Giggs Manchester United 1-1 Chelsea
2013-14 Baner Cymru Gareth Bale Real Madrid 4-1(w.a.y.) Atlético Madrid

Lerpwl yn ennill 4-2 ar c.o.s.
Manchester United yn ennill 6-5 ar c.o.s.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Football's premier club competition". Union of European Football Associations. 31 Ionawr 2010. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  2. "Matches". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Club competition winners do battle". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "FIFA Club World Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "European Champions' Cup". Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. 2010-01-31.
  6. "1989/90 European Champions Clubs' Cup". UEFA.com. 2010-01-31.
  7. "Mitropa Cup History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "RSSSF: Latin Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Primeira Libertadores – História (Globo Esporte 09/02/20.l.08)". Youtube.com.
  10. 10.0 10.1 "UEFA Champions League anthem". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2015-07-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. Media, democracy and European culture. Intellect Books. t. 129.
  12. "Bayern humiliate Barca to set up Champions League final with Dortmund". IBN Live. 2013-05-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-11. Cyrchwyd 2015-07-20.
  13. "UEFA Champions League – Statistics Handbook 2012/13" (PDF). UEFA.com. Union of European Football Associations. t. 141.
  14. "1973/74: Muller ends Bayern wait". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-24. Cyrchwyd 2015-05-31.
  15. "1983/84: Kennedy spot on for Liverpool". UEFA.com.
  16. "1985/86: Steaua stun Barcelona". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-11. Cyrchwyd 2015-05-31.
  17. "1987/88: PSV prosper from Oranje boom". UEFA.com.
  18. "1990/91: Crvena Zvezda spot on". UEFA.com.
  19. "1995/96: Juve hold their nerve". UEFA.com.
  20. "2000/01: Kahn saves day for Bayern". UEFA.com.
  21. "2002/03: Shevchenko spot on for Milan". UEFA.com.
  22. "2004/05: Liverpool belief defies Milan". UEFA.com. Union of European Football Associations. 25 Mai 2005.
  23. "2007/08: Fate favours triumphant United". UEFA.com.
  24. "Shoot-out win ends Chelsea's long wait for glory". UEFA.com.
  25. "European Cup 1976-77". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  26. "European Cup 1983-84". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  27. "UEFA Champions League 1998-99". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  28. "UEFA Champions League 2007-08". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  29. "UEFA Champions League 2008-09". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  30. "UEFA Champions League 2010-11". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  31. "UEFA Champions League 2013-14". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  32. "Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop". BBC Chwaraeon. Unknown parameter |published= ignored (help)