Awstria-Hwngari

Oddi ar Wicipedia
Awstria-Hwngari
Enghraifft o'r canlynolgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
Label brodorolÖsterreich-Ungarn Edit this on Wikidata
Poblogaeth39,386,934 Edit this on Wikidata
Rhan oY Pwerau Canolog Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mawrth 1867 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganYmerodraeth Awstria Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTransleithania, Cisleithania Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddYmerodraeth Awstria Edit this on Wikidata
OlynyddGweriniaeth Almaeneg-Awstria, Kingdom of Hungary, First Czechoslovak Republic, State of Slovenes, Croats and Serbs, Brenhiniaeth Rwmania, Tsiecoslofacia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolY Pwerau Canolog Edit this on Wikidata
Enw brodorolÖsterreich-Ungarn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Awstria-Hwngari

Gwladwriaeth yng nghanolbarth Ewrop o 1867 hyd 1918 oedd Awstria-Hwngari. Roedd yn ffederasiwn oedd wedi datblygu o Ymerodraeth Awstria. O gwmpas y flwyddyn 1900, Awstria-Hwngari oedd y wlad fwyaf yn Ewrop ar ôl Rwsia.

Unwyd Awstria a Hwngari trwy briodas Anna o Fohemia (merch Vladislav II, brenin Bohemia a Hwngari) a'r archddug Ferdinand I, brawd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl V yn 1526. Yn ddiweddarach daeth Ferdinand yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig wedi i'w frawd ymddiswyddo.

Daeth yr Ymerodraeth Lân Rhufeinig i ben yn 1806, a ffurfiwyd Ymerodraeth Awstria. gyda Hwngari yn rhan ohoni. Roedd yr Hwngariaid yn anfodlon ar hyn, ac wedi i Awstria gael ei gorchfygu gan deyrnas Prwsia yn 1866, daethpwyd i gytundeb (yr Ausgleich) yn 1867, lle rhoddodd yr ymerawdwr Frans Jozef yr un statws i Hwngari ac i Awstria.

Rhoddodd hyn statws cyfartal i Awstriaid a Hwngariaid, a gradd uchel o ymreolaeth o fewn y system ffederal, ond roedd y grwpiau ethnig eraill, megis y Tsieciaid, yn anfodlon ac yn mynnu'r un statws. Yn 1914, llofruddiwyd yr archddug Franz Ferdinand yn Sarajevo (yn Bosnia-Hertsegofina), gan ddechrau'r gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd ar y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw Frans Jozef yn 1916, ac olynwyd ef gan Siarl I. Ar ddiwedd y rhyfel, ymddatododd Awstria-Hwngari, gyda Tsiecoslofacia, Gorllewin Wcráin, Awstria a Hwngari yn dod yn wledydd annibynnol a rhannau eraill yn dod yn eiddo Rwmania, yr Eidal a Gwlad Pwyl.