Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin

Oddi ar Wicipedia
Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasLviv, Ivano-Frankivsk, Ternopil, Zalishchyky Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 Hydref 1918 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem genedlaethol Wcráin Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYevhen Petrushevych, Sydir Holubovych, Kost Levytsky Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau50.45°N 30.5°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethYevhen Petrushevych Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
unben Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYevhen Petrushevych, Sydir Holubovych, Kost Levytsky Edit this on Wikidata
Map

Gwladwriaeth a fodolai yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop o Dachwedd 1918 i Orffennaf 1919 oedd Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin (Wcreineg: Західно-Українська Народня Республіка, ЗУНР trawslythreniad: Zakhidno-Ukrainska Narodnia Respublika, ZUNR). Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb yn fras i'r rhan fwyaf o Ddwyrain Galisia, neu Orllewin Wcráin, sef y broydd Wcreinaidd ethnig a fu dan reolaeth Awstria-Hwngari hyd at gwymp y frenhiniaeth honno ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Parodd Rhyfel y Pwyliaid a'r Wcreiniaid trwy gydol oes y weriniaeth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Yn niwedd Medi 1918, ffurfiwyd y Gomisariaeth Filwrol Gyffredinol Wcreinaidd yn Lviv er mwyn paratoi am wrthryfel arfog yn erbyn Awstria-Hwngari. Etholwyd Dmytro Vitovsky, capten o Leng Reifflwyr y Sich Wcreinaidd, yn gadeirydd y gomisariaeth yn Hydref 1918. Wrth i Awstria-Hwngari chwalu'n ddarnau, sefydlwyd Rada Cenedlaethol Wcráin yn Lviv ar 18 Hydref gan aelodau o gynulliadau Galisia a Bukovyna a chynrychiolwyr o bleidiau gwleidyddol y ddwy ranbarth, yn ogystal â chlerigwyr a myfyrwyr Wcreinaidd. Ar 19 Hydref, datganodd y Rada annibyniaeth y weriniaeth Wcreinaidd i gwmpasu holl diroedd yr Wcreiniaid yng Ngalisia, Bukovyna, a Thrawscarpathia. Etholwyd Yevhen Petrushevych yn llywydd y Rada, a chytunwyd i ddatblygu cyfansoddiad democrataidd ar gyfer y wladwriaeth newydd.[1]

Ar 31 Hydref, daeth yn hysbys bod y Pwyllgor Diddymu—a grëwyd ar 28 Hydref gan wleidyddion Pwylaidd yn Kraków—ar ei ffordd i Lviv gyda'r nod o ymgorffori Galisia yn rhan o Wlad Pwyl annibynnol. Gwrthododd y Cadfridog Karl Georg Huyn, llywodraethwr milwrol Galisia, gais gan y Rada i drosglwyddo rheolaeth dros Galisia a Bukovyna i'r corff hwnnw. Ar yr un diwrnod, heb gysylltiad â'r Rada, penderfynodd y Gomisariaeth sicrhau rheolaeth dros Lviv, a'r noson honno gorchmynnodd Vitovsky i'w reifflwyr gipio'r prif adeiladau llywodraethol ar draws y ddinas.[1]

Sefydlwyd Ysgrifenyddiaeth Wladol y ZUNR ar 13 Tachwedd 1918, ac aeth ati i gadarnhau cyfansoddiad y wladwriaeth newydd a mabwysiadu ei henw swyddogol. Diffiniwyd ffiniau'r ZUNR gan y Gyfraith Sylfaenol Dros Dro, a hawliai diriogaeth o 70,000 km2 gan gynnwys broydd yr Wcreiniaid ethnig yng Ngalisia, Bukovyna, a Thrawscarpathia, gyda phoblogaeth o chwe miliwn.[1]

Cychwyn y rhyfel[golygu | golygu cod]

Er i'r lleiafrifoedd o Almaenwyr ac Iddewon gadw'n ffyddlon i'r wladwriaeth newydd, trodd y boblogaeth Bwylaidd yn erbyn y llywodraeth Wcreinaidd a chychwynnodd Rhyfel y Pwyliaid a'r Wcreiniaid. Ymunodd Teyrnas Rwmania â'r ffrae, a meddiannwyd Chernivtsi gan luoedd Rwmanaidd ar 11 Tachwedd gyda'r nod o gyfeddiannu gogledd Bukovyna. Ar 21 Tachwedd, wedi tair wythnos o frwydro, ildiodd Lviv i'r Pwyliaid, a symudodd llywodraeth y ZUNR felly i Ternopil ac wedyn, yn niwedd Rhagfyr 1918, i Stanyslaviv (bellach Ivano-Frankivsk).[2]

Cydweithio a gwrthdaro â'r UNR[golygu | golygu cod]

Ar 1 Rhagfyr 1918, arwyddwyd blaen-gytundeb gan ddirprwyon o'r Rada ac o Gyfarwyddiaeth Gweriniaeth Pobl Wcráin (UNR), gan ddatgan bwriad y ddwy lywodraeth o uno'r ZUNR â'r UNR yn y dyfodol. Cadarnhawyd y cytundeb ar 3 Ionawr 1919, ac ar 22 Ionawr cyhoeddwyd Deddf Undeb yn Kyiv, prifddinas yr UNR. Yn unol â'r cynllun i uno'r ddwy weriniaeth Wcreinaidd, cafodd yr ZUNR ei hail-enwi yn Oblast Gorllewin yr UNR (ZO UNR). Fodd bynnag, ni chafodd y ddwy lywodraeth eu huno.[2]

Erbyn Mehefin 1919, llwyddodd y lluoedd Pwylaidd i ysgubo dros y fyddin Wcreinaidd yng Ngalisia (UHA), a bu'r rhanbarth cyfan bron dan feddiannaeth, ac eithrio'r triongl o dir rhwng afonydd Dnister a Zbruch a thref Zalishchyky. Ymddiswyddodd y llywodraeth ar 9 Mehefin 1919, a throsglwyddodd Pwyllgor Gweithredol y Rada ei rymoedd i Yevhen Petrushevych, gan ei benodi felly yn unben ar Oblast y Gorllewin (ZO UNR).[2] Aeth Petrushevych ati i sefydlu corff gweithredol dros dro, Cyngor y Gweinidogion Llawnalluog, a Changhellfa Filwrol. Enciliodd yr UHA dros Afon Zbruch yng nghanol Gorffennaf, gan ymuno â Byddin yr UNR. O Orffennaf i Dachwedd 1919, lleolwyd Petrushevych a llywodraeth yr ZUNR yn Kamianets-Podilskyi gyda llywodraeth yr UNR.[3]

Y llywodraeth alltud[golygu | golygu cod]

Yn Nhachwedd 1919 bu'r Pwyliaid yn drech na'r Wcreiniaid o'r diwedd, a gyrrwyd Petrushevych a'i lywodraeth ar ffo, ac aethant yn alltud yn Fienna, Awstria.[3]

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Er mai byrhoedlog bu hanes Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin (a Gweriniaeth Pobl Wcráin), bu'r ffaith iddo fodoli, ynghyd â Gweriniaeth Wcráin, orfordi Lenin a'r Comiwnyddion canolog Rwsieg eu allolwg, gydnabod bod angen cydnabyddiaeth genedlaethol Wcreineg os oedd yr Undeb Sofietaidd i fodoli. O ganlyniad, wedi llwyddiant y Fyddin Goch gwnaed Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn un o 5 Sofiet Weriniaeth a sefydlodd y wladwriaeth newydd.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Західно-Українська Народна Республіка 1918–1923. Енциклопедія. Т. 1: А–Ж. Івано-Франківськ : Манускрипт-Львів, 2018. 688 с.

Західно-Українська Народна Республіка 1918–1923. Енциклопедія. Т. 2: З–О. Івано-Франківськ : Манускрипт-Львів, 2019. 832 с.

Західно-Українська Народна Республіка 1918-1923. Енциклопедія. Т. 3: П – С. Івано-Франківськ: Манускрипт-Львів, 2020.576 с.

Західно-Українська Народна Республіка 1918-1923. Енциклопедія. Т. 4: Т – Я. Івано-Франківськ: Манускрипт-Львів, 2021.688 с.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 748.
  2. 2.0 2.1 2.2 Ivan Katchanovski et al., Historical Dictionary of Ukraine (2013), t. 749.
  3. 3.0 3.1 Ivan Katchanovski et al., Historical Dictionary of Ukraine (2013), t. 750.
  4. "How Ukraine Became Part of the USSR - The Soviet–Ukrainian War". Sianel Youtube 'The Great War'. 22 Mawrth 2022.