Prwsia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaeth Prwsia ar ei ehangaf fel rhan o Ymerodraeth yr Almaen

Gwladwriaeth rymus yng ngogledd Yr Almaen ar lan y Môr Baltig oedd Prwsia, a sefydlwyd gan y Marchogion Tiwtonaidd yn y 13eg ganrif.

Daeth Prwsia'n ddugiaeth yn 1525 dan reolaeth y frenhinllin Hohenzollern. Unodd â Brandenburg yn 1618 ac erbyn diwedd yr 17eg ganrif, dan reolaeth Ffrederic Wiliam (1620 - 1688), Etholwr Mawr Prwsia, roedd wedi datblygu i fod y wladwriaeth rymusaf yng ngorllewin yr Almaen.

Yn y 18fed ganrif dan reolaeth Ffrederic Fawr (1712 - 1786), Brenin Prwsia (o 1740 hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth. Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni ar y llall. Cipiodd Prwsia Silesia a rhan o Wlad Pwyl gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn Ewrop. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng Nghynhadledd Vienna (1815) yn sgîl trechu Napoleon gan y cynghreiriad.

Yn ail hanner y 19eg ganrif reolai Otto von Bismarck (1815 - 1898) ym Mhrwsia. Gorchfygodd Awstria a'i chynghreiriaid Almaenig yn 1866 ac ychwanegwyd Schleswig-Holstein i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen. Dyma hedyn Ymerodraeth yr Almaen a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870-71) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.

Yn 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol o fewn Gweriniaeth Weimar, ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Daeth yr enw 'Prwsia' a'r ymadrodd 'gwerthoedd Prwsaidd' i ddynodi effeithiolrwydd, disgyblaeth a hunan-aberth.