Marchogion Tiwtonaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais yr Urdd Diwtonaidd yn y 14g.
Tiroedd a changhennau'r Marchogion Tiwtonaidd yn y flwyddyn 1300.

Urdd o farchogion Cristnogol o'r Almaen oedd y Marchogion Tiwtonaidd neu'r Urdd Diwtonaidd. Chwaraeodd ran bwysig yn yr Oesoedd Canol wrth gynorthwyo Cristnogion ar bererindod i'r Tir Sanctaidd ac i wladychu gwledydd dwyrain y Baltig gan yr Almaenwyr.

Darfu i ddioddefiadau'r Cristnogion yn adeg y gwarchae ar Acre (1189–91) gyffroi cydymdeimlad y marsiandwyr yn Bremen a Lübeck, y rhai a wnaethant wasanaeth mor ragorol trwy sefydlu clafdai yn ystod y Drydedd Groesgad. Gyda caniatâd y Pab Clement III a'r Ymerawdwr Harri VI ffurfiodd Ffredrig, Dug Swabia yr urdd, Marchogion Tiwtonaidd y Santes Fair o Gaersalem. Nid oedd caniatâd i neb ymuno â'r urdd ond Almaenwyr o waedoliaeth uchel, gan i'r sefydlwyr gwreiddiol gael eu gwneud yn bendefigion, dybygid, cyn eu derbyn i mewn. Ar y cyntaf yr oedd yr aelodau oll yn lleygwyr, ond yn raddol gollyngwyd offeiriaid i mewn fel caplaniaid. Gwisg yr urdd oedd mantell wen â chroes ddu arni. Cymerai'r marchogion adduned o dlodi a diweirdeb, ond nid oeddid yn gofalu ond ychydig amdanynt mewn amseroedd diweddar.

Y lle cyntaf yr ymsefydlasant ynddo oedd Acre. Ar gwymp Teyrnas Caersalem, symudodd y prif swyddog i Fenis, ac oddi yno, ym 1309, i Marienburg ar lannau'r Vistula. Ymunodd yr urdd â Brodyr y Cleddyf yn Lifonia yn y flwyddyn 1237. Gyda chaniatâd y pab, cariasant ymlaen ryfel gwaedlyd ar lannau deheuol y Môr Baltig, yn y 13g, er cael y cenhedloedd a drigent yno dderbyn Cristnogaeth. Ymunodd rhyfelwyr o bob parth o Ewrop gyda hwynt yn y ganrif ddilynol, ac yn eu plith Harri IV, brenin Lloegr a thri chant o'i farchogion. Dechreuodd yr urdd adfeilio yn y 15g, a chwympodd mewn rhan oherwydd ymraniadau mewnol, ac mewn rhan o ganlyniad ymosodiadau gan y cenhedloedd cylchynol. Cymerwyd gorllewin Prwsia gan Zygmunt I, brenin Gwlad Pwyl, oddi ar y marchogion, a ffurfiwyd tiriogaethau yr urdd yn nwyrain Prwsia yn dalaith dan Albert o Brandenburg, a'i olynwyr. Yna symudodd y prif swyddog i Mergentheim yn Swabia, yr hwn a gydnabyddid fel tywysog o'r ymerodraeth. Pan wnaed Heddwch Presburg, ym 1805, trosglwyddwyd i ymerawdwr Awstria hawliau a chyllid y prif feistr, ond ym 1809 diddymwyd yr urdd gan Napoleon, ac aeth y tiroedd perthynol iddo yn feddiant i benaduriaid y gwledydd lle y digwyddent fod. Y mae'r urdd Diwtonaidd, fodd bynnag, yn bod mewn rhyw ffurf yn Awstria eto, ac ers 1929 urdd gwbl grefyddol ydyw.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.