Lübeck

Oddi ar Wicipedia
Lübeck
Mathdinas fawr, dinas Hanseatig, prif ganolfan ranbarthol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district in Schleswig-Holstein Edit this on Wikidata
Poblogaeth218,095 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJan Lindenau Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSchleswig-Holstein Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd214.21 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr13 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawBay of Lübeck, Trave, Elbe–Lübeck Canal, Wakenitz Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOstholstein, Stormarn, Herzogtum Lauenburg, Ardal Nordwestmecklenburg, Krummesse Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.8697°N 10.6864°E Edit this on Wikidata
Cod post23552–23570 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJan Lindenau Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen yw Lübeck. Hi yw ail ddinas y dalaith o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 213,983 yn 2005. Cyhoeddwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987.

Sefydlwyd Lübeck fel Liubice gan y Slafiaid yn yr 8g, ond yn 1138 llosgwyd hi. Yn 1143, ail-sefydlwyd y ddinas gan y tywysog Almaenig Adolf II o Holstein. Gwnaed hi yn ddinas rydd o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig gan yr ymerawdwr Ffrederic II yn 1226.

Datbygodd Lübeck i fod yn ddinas bwysicaf y Cynghrair Hanseataidd ac yn brifddinas answyddogol y Cynghrair. Yn y cyfnod hwnnw, enillodd y llysenw "Carthago y Gogledd".[1] Yn 1937, dan Adolf Hitler, collodd y ddinas ei hanibyniaeth a dod yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein.

Pobl enwog o Lübeck[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 48.