Frankfurt am Main
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas fawr, tref goleg, financial centre, dinas annibynnol yr Almaen, European City ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
746,878 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Peter Feldmann ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Stadtregion Frankfurt ![]() |
Sir |
Darmstadt Government Region ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
248.31 km² ![]() |
Uwch y môr |
112 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Main ![]() |
Yn ffinio gyda |
Offenbach am Main, Wetteraukreis, Main-Kinzig-Kreis, Offenbach, Main-Taunus-Kreis, Hochtaunuskreis, Groß-Gerau, Bad Vilbel ![]() |
Cyfesurynnau |
50.1136°N 8.6797°E ![]() |
Cod post |
60308–60599, 65929–65936 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Peter Feldmann ![]() |
Mae Frankfurt am Main yn ddinas yn yr Almaen. Frankfurt yw'r ddinas fwyaf yn nhalaith Hesse a'r bumed dinas yn yr Almaen o ran poblogaeth ar ôl Berlin, Hamburg, München a Cwlen, gyda poblogaeth o 670,095 yn Rhagfyr 2008.
Gelwir y ddinas yn Frankfurt am Main oherwydd ei lleoliad ar Afon Main ac i'w gwahaniaethu oddi wrth y Frankfurt arall, ar Afon Oder. Fel rheol pan gyfeirir at "Frankfurt", Frankfurt am Main a olygir. Frankurt yw'r drydedd canolfan ariannol yn Ewrop ar ôl Llundain a Paris, ac yn 2001 cyhoeddwyd mai Frankfurt oedd dinas gyfoethocaf Ewrop. Mae'r maes awyr ymhlith y prysuraf yn Ewrop.
Mae hanes y ddinas yn mynd yn ôl i sefydliadau Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. O 855 hyd 1792, Frankfurt oedd dinas etholiadol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd y ddinas ei bomio'n drwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dinistriwyd y canol hanesyddol.
Treuliodd y Cymro Richard Davies (a fyddai nes ymlaen yn esgob Llanelwy ac wedyn Tyddewi) gyfnod o alltudiaeth yn y ddinas o 1555 hyd 1558 am ei grefydd.
Mae gan y ddinas nifer o dimau peldroed; yr enwocaf ohonynt yw Eintracht Frankfurt.
Pobl enwog o Frankfurt am Main[golygu | golygu cod y dudalen]
- Johann Wolfgang von Goethe, awdur.
- Siarl Foel, ymerawdwr
- Anne Frank, enwog am ei dyddiadur adeg yr Ail Ryfel Byd