Rostock

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Farchnad Newydd (Neuer Markt) yn Rostock.

Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Almaen a dinas fwyaf talaith ffederal Mecklenburg-Vorpommern yw Rostock. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 200,414.

Saif Rostock ar afon Warnow; tra mae maestref Rostock-Warnemünde, tua 16 km i'r gogledd o ganol y ddinas, ar lan y Môr Baltig. Sefydlwyd y ddinas yn yr 11eg ganrif gan y Slafiaid Polabaidd dan yr enw Roztoc, sy'n golygu "lledaeniad yr afon". Yn ddiweddarach, daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd. Sefydlwyd Prifysgol Rostock yn 1419.

Pobl enwog o Rostock[golygu]

Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.