Szczecin
| Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas, dinas Hanseatig, tref ar y ffin, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid |
|---|---|
| Cysylltir gyda | Ffordd Ewropeaidd E65 |
| Poblogaeth | 387,700 |
| Pennaeth llywodraeth | Alexander von Rammin, Piotr Krzystek |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | West Pomeranian Voivodeship |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 301 ±1 km² |
| Uwch y môr | 131 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Gmina Gryfino, Gmina Stare Czarnowo, Gmina Kobylanka, Gmina Goleniów, Gmina Police, Gmina Dobra, Gmina Kołbaskowo |
| Cyfesurynnau | 53.4247°N 14.5553°E |
| Cod post | 70-001–71-899 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Alexander von Rammin, Piotr Krzystek |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-orllewin Gwlad Pwyl a phrifddinas talaith Gorllewin Pomerania yw Szczecin (Almaeneg: Stettin). Roedd y boblogaeth yn 2014 yn 408,113. Saif ar afon Oder, gyda chanol y ddinas ar y lan orllewinol. Er fod y môr 65 km i'r gogledd, mae llongau yn medru cyrraedd y ddinas, ac mae'n un o borthladdoedd pwysicaf Gwlad Pwyl. Mae hefyd yn ddinas brifysgol.
Szczecin oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Pomerania. Yn y 5g, roedd caer yma ar gyfer masnach rhwng y Llychlynwyr a chanolbarth Ewrop. Yn 1181 daeth y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn ddiweddarach yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.
Daeth y ddinas yn eiddo brenin Sweden yn 1648 wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn 1721, gorfodwyd y Swediaid i ildio'r ddinas i deyrnas Prwsia, ac yn 1870, gyda gweddill Prwsia, daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd meddiant ar y ddinas i Wlad Pwyl.

Pobl enwog o Stettin/Szczecin
[golygu | golygu cod]- Catrin Fawr, ymerodres Rwsia
- Karl Heinrich von Bötticher (1833-1907), gwladweinydd Prwsaidd
- Alfred Döblin (1878-1957), awdur Almaeneg
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·
