Duisburg
| Math | dinas fawr, prif ganolfan ranbarthol, tref goleg, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, ardal drefol Gogledd Rhine-Westphalia |
|---|---|
| Poblogaeth | 503,707 |
| Pennaeth llywodraeth | Sören Link |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Gaziantep |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr, Ardal Fetropolitan Rhine-Ruhr |
| Sir | Ardal Llywodraethol Düsseldorf |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 232.8 km² |
| Uwch y môr | 33 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Ruhr, Afon Rhein, Alte Emscher, Kleine Emscher, Camlas Rhine–Herne |
| Yn ffinio gyda | Düsseldorf, Wesel, Oberhausen, Mülheim an der Ruhr, Rhein-Kreis Neuss, Krefeld, Meerbusch, Mettmann, Ratingen, Moers |
| Cyfesurynnau | 51.4322°N 6.7611°E |
| Cod post | 47279, 47001, 47051 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Sören Link |
![]() | |
Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin yr Almaen yw Duisburg. Saif Duisberg gerllaw'r fan lle mae afon Ruhr yn llifo i mewn i afon Rhein. Gyda phoblogaeth o 495,668 yn 2007, saif yn drydydd ymysg dinasoedd Ardal y Ruhr o ran poblogaeth.
Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid Duisberg fel Dispargum. Ceir cofnod i'r ddinas gael ei hanrheithio gan y Llychlynwyr yn 883. Yn wreiddiol roedd y ddinas yn union ar lan afon Rhein, ond tua 1200 newidiodd yr afon ei chwrs ychydig, a phenderfynwyd adeiladu harbwr newydd ar yr afon. Harbwr Duisburg yw'r harbwr mwyaf yn Ewrop nad yw ger y môr.
Roedd Duisburg yn adnabyddus am ei gweithfeydd dur a'i diwydiant glo, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'r pyllau glo wedi cau. Bu'r cartograffydd Gerardus Mercator yn gweithio yma o 1552 hyd 1594, ac mae wedi ei gladdu yma.
