Gerardus Mercator

Oddi ar Wicipedia
Gerardus Mercator
GanwydGerard De Kremer Edit this on Wikidata
5 Mawrth 1512 Edit this on Wikidata
Rupelmonde Edit this on Wikidata
Bu farw2 Rhagfyr 1594 Edit this on Wikidata
Duisburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHabsburg Netherlands Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hen Brifysgol Lefeven
  • City Gymnasium Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Gemma Frisius Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, daearyddwr, athronydd, diwinydd, mapiwr, dyfeisiwr, cosmograffwr, academydd, gwneuthurwr offerynnau, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • prifysgolion Leuven Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMercator projection, Mercator 1569 world map, Mercator map of Palestine, Angliae, Scotiae & Hiberniae nova descriptio, Mercator Europe map, Literarum latinarum, quas italicas, cursoriasque vocant, scribendarum ratio, Chronologia, Tabulae Geographicae, Mercator globe of the Earth (1541) Edit this on Wikidata
PriodBarbara Schellekens, Gertrude Vierlings Edit this on Wikidata
PlantBartholomeus‏ Mercator, Rumold Mercator, Arnold Mercator Edit this on Wikidata
llofnod
Ysgythriad o Gerardus Mercator a gyhoeddwyd yn gyntaf yng ngyfrol Joannis Francisci Foppens "Bibliotheca Belgica" a hynny yn 1739

Cartograffydd o Fflandrys oedd Gerardus Mercator, né Gerhard Kremer (5 Mawrth, 1512 - 2 Rhagfyr, 1594), a aned yn Fflandrys o rieni Almaenig.[1]

Cafodd ei addysg ym mhrifysgol Louvain. Cyflogodd yr Ymherodr Glân Rhufeinig Siarl V Fercator i wneud mapiau at ddefnydd milwrol ac wedi hynny fap o Fflandrys ei hun.

Yn 1552 ymsefydlodd yn Duisburg, ar ôl cael ei gyhuddio o heresïaeth yn 1544 a gorfod ffoi Fflandrys, a chafodd ei gyflogi gan Dug Cleves. Treuliodd weddill ei oes yn gwneud mapiau.

Yn 1568 dyfeisiodd y system taflunio, paralelau a meridionau ar gyfer llunio mapiau sy'n dal i ddwyn ei enw o hyd (Tafluniad Mercator).

Cafodd ei fapiau eu cyhoeddi mewn llyfr arbennig ac fe'i galwyd yn "atlas" am ei fod yn dangos llun o'r arwr chwedlonol Atlas yn dwyn i fyny'r Ddaear ar ei ysgwyddau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Low Countries: Arts and Society in Flanders and the Netherlands, a Yearbook (yn Saesneg). Flemish-Netherlands Foundation "Stichting Ons Erfdeel". 1994. t. 281.