München
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, tref goleg, dinas fawr, residenz, prifddinas talaith yr Almaen, dinas annibynnol yr Almaen, metropolis, financial centre, bwrdeistref trefol yr Almaen, dinas â miliynau o drigolion, urban district of Bavaria, prif ddinas ranbarthol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
mynach ![]() |
![]() | |
Poblogaeth |
1,471,508 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Dieter Reiter ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant |
Benno ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Oberbayern ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
310.71 km² ![]() |
Uwch y môr |
519 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Isar, Isar-Werkkanal, Würm, Eisbach, Auer Mühlbach, Kleinhesseloher See, Dreiseenplatte, Kleine Isar, Nymphenburg Canal, Schwabinger Bach ![]() |
Yn ffinio gyda |
Munich, Dachau, Fürstenfeldbruck, Garching bei München, Q55278376, Q55278629 ![]() |
Cyfesurynnau |
48.13719°N 11.5755°E ![]() |
Cod post |
80331, 81929, 80802, 80805, 81377, 81379, 81737, 81730, 81735, 81825 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Arglwydd Maer, mayor of Munich ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Dieter Reiter ![]() |
![]() | |
Cost |
6,600,000,000 Ewro ![]() |
Mae München yn ddinas yn ne yr Almaen ac yn brifddinas talaith Bafaria.
Gyda phoblogaeth o 1.36 miliwn yn Rhagfyr 2006, München yw trydydd dinas yr Almaen o ran poblogaeth; dim ond Berlin a Hamburg sy'n fwy. Dim ond 24,000 oedd y boblogaeth yn 1700, ond ers hynny mae'r boblogaeth wedi dyblu bob 30 mlynedd. Mae hefyd yn un o ddinasoedd cyfoethocaf Ewrop. Ystyr yr enw yw "mynachod", ac mae'r ffigwr ar bais arfau'r ddinas yn cynrychioli mynach.
Ceir y sôn cyntaf am y ddinas mewn dogfen yn 1158, pan oedd pont dros Afon Isar gerllaw mynachdy Benedictaidd. Pan ad-unwyd Bafaria yn 1506 daeth München yn brifddinas, ac yn 1806 daeth yn brifddinas Teyrnas Bafaria. Rhwng y ddau ryfel byd, yn München y cododd y Natsïaid a'u harweinydd Adolf Hitler i amlygrwydd. Yn 1923 ceisiodd ef a'i gefnogwyr gipio grym yma, ond methodd a charcharwyd ef.
Yng nghanol y ddinas mae'r Marienplatz, gyda Neuadd y Ddinas gerllaw. Yr adeilad enwocaf yma yw eglwys gadeiriol Gatholig y Frauenkirche. Mae nifer o dimau pêl-droed yn y ddinas, yn cynnwys yr enwocaf o glybiau pêl-droed yr Almaen, FC Bayern Munich. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1972. Mae'r ddinas hefyd yn enwog am yr Oktoberfest, sydd, er gwaethaf ei enw, yn cael ei gynnal ym mis Medi, gan orffen ar y Sul cyntaf yn Hydref.
Pobl enwog o München[golygu | golygu cod y dudalen]
- Andreas Baader, 1943 - 1977, chwyldroadwr
- Franz Beckenbauer, ganed 1945, pêl-droediwr
- Eva Braun, 1910 - 1945, cariad Adolf Hitler
- Leon Feuchtwanger, 1884 - 1958, awdur
- Heinrich Himmler, 1900 - 1945, prif awdur yr Holocost.
- Josef Dieter 'Sepp' Maier, ganed 1944, pêl-droediwr
- Gerhard 'Gerd' Müller, ganed 1945, pêl-droediwr
- Carl Orff, 1895 - 1982, cyfansoddwr
- Franz Josef Strauß, 1915 - 1988, Arlywydd Bafaria
- Richard Strauss, 1864 - 1949, cyfansoddwr