Heinrich Himmler

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Heinrich Himmler tua 1930

Roedd Heinrich Luitpold Himmler (7 Hydref 190023 Mai 1945) yn bennaeth y Schutzstaffel (SS) a'r Gestapo ac yn un o'r dynion oedd a mwyaf o rym yn yr Almaen yn y cyfnod Natsïaidd. Ystyrir mai ef oedd prif awdur yr Holocost.

Ganed ef ym München i deulu dosbarth canol; roedd ei dad, Joseph Gebhard Himmler, yn athro a phrifathro ysgol. O 1919 hyd 1922 astudiodd Himmler amaethyddiaeth. Yn 1923 cymerodd ran yn ymgais aflwyddianus y Natsïaid dan Adolf Hitler i gipio grym ym München. Priododd Margarete Siegroth yn 1928, a ganed merch, Gudrun, yn 1929.

Daeth yn aelod o'r SS yn 1925, ac apwyntiwyd ef yn Reichsführer-SS yn 1929. Yr adeg honno, dim ond 280 o aelodau oedd gan yr SS, ond tyfodd yn gyflym; erbyn i'r Natsïaid ddod i rym yn 1933 roedd 52,000 o aelodau. Erbyn 1936 roedd Himmler yn bennaeth yr heddlu hefyd. Wedi 1941, Himmler a'r SS oedd yn gyfrifol am y gwersylloedd difa lle lladdwyd miliynau o Iddewon ac eraill.

Cymerwyd ef yn garcharol ar 22 Mai 1945 gan filwyr Prydeinig. Brwiadwyd ei roi ar ei brawf yn Nuremburg gyda'r arweinwyr eraill, ond lladdodd ei hun trwy wenwyn.