Ymerodraeth yr Almaen
Delwedd:Wappen Deutsches Reich - Reichsadler 1889.svg, Wappen Deutsches Reich - Reichswappen (Grosses).svg | |
Arwyddair | Gott mit uns |
---|---|
Math | gwlad ar un adeg |
Prifddinas | Berlin |
Poblogaeth | 41,058,792, 49,428,470, 64,925,993, 67,790,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Heil dir im Siegerkranz |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Pwerau Canolog |
Arwynebedd | 540,858 km² |
Yn ffinio gyda | Ymerodraeth Rwsia, Awstria-Hwngari, y Drydedd Weriniaeth Ffrengig, Y Swistir, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg |
Cyfesurynnau | 52°N 13°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Reichstag |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Prwsia |
Pennaeth y wladwriaeth | Wilhelm I o'r Almaen, Friedrich III, ymerawdwr yr Almaen, Wilhelm II, ymerawdwr yr Almaen |
Crefydd/Enwad | Protestaniaeth |
Arian | marc yr Almaen |
Gwladwriaeth yng Nghanolbarth Ewrop oedd Ymerodraeth yr Almaen, Caiseriaeth yr Almaen neu yr Almaen Imperialaidd (Almaeneg: Deutsches Kaiserreich), a elwir hefyd yr Ail Reich, a fodolai o uno'r Almaen yn Ionawr 1871 hyd at gwymp y frenhiniaeth yn Nhachwedd 1918. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd yr Almaen yn un o bwerau mawrion Ewrop, a chanddi lywodraeth ganolog gref a nerth economaidd a milwrol sylweddol.
Wedi buddugoliaeth Teyrnas Prwsia yn Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870–71), unwyd yr amryw diriogaethau Almaenig dan arweiniad Otto von Bismarck, Gweinidog Llywydd Prwsia a Changhellor Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen. O ganlyniad i Gytundebau Tachwedd 1870, ymunodd uchel ddugiaethau Baden ac Hessen-Darmstadt a theyrnasoedd Württemberg a Bafaria â Chydffederasiwn y Gogledd ar 1 Ionawr 1871. Bellach, yr oedd holl wladwriaethau Almaeneg Ewrop—ac eithrio Awstria, y Swistir, a Liechtenstein—wedi eu huno. Cyhoeddwyd proclamasiwn i gydnabod Wilhelm I, Brenin Prwsia, yn Ymerawdwr yr Almaen ar 18 Ionawr 1871. Daeth y cyfansoddiad newydd i rym ar 16 Ebrill 1871, gan newid enw'r cydffederasiwn i Ymerodraeth yr Almaen.
Gwladwriaeth ffederal dan frenhiniaeth gyfansoddiadol oedd yr ymerodraeth, gyda grym wedi ei rannu rhwng yr ymerawdwr (neu'r caiser), y cyngor ffederal (y Bundesrat), a'r senedd (y Reichstag). O dan arweinyddiaeth y Canghellor Bismarck (1871–90), canolbwyntiodd y llywodraeth ar integreiddio'r tiriogaethau Almaenig a datblygu economi'r holl ymerodraeth i greu gwlad unedig, gryf. Cyflwynwyd nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys sefydlu cyfundrefn fancio genedlaethol a mabwysiadu arian cyfred cyffredin, y Reichsmark.
Tyfodd economi'r ymerodraeth yn gyflym, ac erbyn diwedd y 19g yr Almaen oedd un o brif bwerau economaidd Ewrop. Yr oedd diwydiant a thechnoleg yn enwedig o gryf, gyda chanolbwynt ar weithgynhyrchu trwm gan gynnwys dur, cemegion, a pheiriannau. Datblygodd yr Almaen hefyd sector amaethyddol bwysig, yn enwedig yn y dwyrain. Er gwaethaf y ffyniant economaidd, wynebodd yr Almaen heriau cymdeithasol a gwleidyddol, yn enwedig y rhaniadau rhwng rhanbarthau'r wlad a gwrthdaro'r dosbarthau. Rheolwyd y llywodraeth gan yr uchelwyr a'r ceidwadwyr, a oedd yn gwrthwynebu diwygiadau democrataidd.
O ran cysylltiadau rhyngwladol, wynebodd Ymerodraeth yr Almaen densiynau gyda'i chymdogion, yn enwedig Ffrainc a Rwsia. Gwaethygwyd y sefyllfa gan bolisi tramor ymosodol yr Almaen, gan gynnwys ei hymdrechion i ennill trefedigaethau tramor i gystadlu ag ymerodraethau eraill Ewrop a chynyddu ei llynges i herio'r Llynges Frenhinol. Yr Almaen oedd un o'r Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18). Ysgogwyd miwtinïau yn y lluoedd arfog pan oedd yr Almaen ar fin golli'r rhyfel, a lledaenodd y terfysgoedd ar draws y wlad, gan achosi cwymp y frenhiniaeth a datganiad Gweriniaeth yr Almaen yn Nhachwedd 1918.
Gwladfeydd
[golygu | golygu cod]- Togoland Almaenig
- Gini Newydd Almaenig
- Camerŵn Almaenig
- De Orllewin Affrica Almaenig (Namibia heddiw)
- Tanganyka
- Ynysoedd Gogledd Solomon
- Samoa Almaenig
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Katja Hoyer, Blood and Iron: The Rise and Fall of the German Empire 1871–1918 (Cheltenham: The History Press, 2021).