Neidio i'r cynnwys

Yr Holocost

Oddi ar Wicipedia
Yr Holocost
Enghraifft o:hil-laddiad, trais ethnig, trosedd yn erbyn dynoliaeth, trosedd casineb, trosedd gwladol, digwyddiad allweddol, hiliaeth Edit this on Wikidata
Mathhil-laddiad, erledigaeth Iddewon Edit this on Wikidata
Lladdwyd6,000,000 Edit this on Wikidata
Rhan oerledigaeth Iddewon, gwrth-Semitiaeth, Holocost Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1933 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1945 Edit this on Wikidata
LleoliadEwrop dan oresgyniad yr Almaen, yr Almaen Natsïaidd, Libia Eidalaidd, Italian Ethiopia, Protectoriaeth Ffrengig ym Moroco, Brenhiniaeth Rwmania, Magyar Királyság, Teyrnas yr Eidal, Algeria Ffrengig, Shanghai Edit this on Wikidata
Yn cynnwysyr Holocost yn yr Iseldiroedd, yr Holocost yn Ffrainc, yr Holocost yng Ngwlad Pwyl, yr Holocost yn Lithwania, yr Holocost yn Latfia, yr Holocost yn yr Almaen, yr Holocost yng Ngwlad Belg, yr Holocost yn Rwsia, yr Holocost yn Lwcsembwrg, yr Holocost yn Hwngari, yr Holocost yn Albania, yr Holocost ym Melarws, yr Holocost ym Mwlgaria, yr Holocost ym Mhohemia a Morafia, yr Holocost yn Tsiecoslofacia, yr Holocost yn Estonia, yr Holocost yn Nwyrain Silesia Uchaf, yr Holocost yng Ngwlad Groeg, yr Holocost yn yr Eidal, yr Holocost yn Norwy, yr Holocost yn Serbia, yr Holocost yn Slofacia, The Holocaust in the Independent State of Croatia, The Holocaust in the Sudetenland, The Holocaust in the Lublin District, yr Holocost yn Wcráin, yr Holocost yn Awstria, yr Holocost yn Iwgoslafia, Jews outside Europe under Axis occupation Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/03hzt edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y fynedfa i Auschwitz-Birkenau yn 1945

Yr Holocost (o'r Groeg holókauston, o holon "yn llwyr" a kauston "llosg"), hefyd Ha-Shoah (Hebraeg: השואה), yw'r term a ddefnyddir am ladd tua chwe miliwn o Iddewon Ewropeaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel rhan o raglen fwriadol o hil-laddiad gan y Natsïaid.

Lladdwyd nifer fawr o bobloedd a grwpiau eraill gan y Natsiaid hefyd, yn cynnwys y Roma, carcharorion rhyfel o'r Undeb Sofietaidd, pobl hoyw, pobl anabl, Tystion Jehovah ac eraill. Mae rhywfaint o anghytundeb ymysg ysgolheigion a ddylid cynnwys y rhain yn y term "Holocost", neu a ddylid ei ddefnyddio am yr Iddewon yn unig.

Dechreuodd yr erlid ar yr Iddewon yn raddol wedi i'r Natsiaid ddod i rym. Ar y dechrau, cyfyngwyd ar hawliau Iddewon gan ddeddfau megis Deddfau Nuremberg, yna gorfodwyd Iddewon i symud i getoau ac yn ddiweddarach i wersylloedd. Erbyn y 1940au roedd gwersylloedd difa megis Auschwitz a Treblinka wedi eu sefydlu, lle lladdwyd miliynau trwy ddefnyddio nwy a dulliau eraill. Credir i 1.4 miliwn o bobl gael eu lladd yn Auschwitz yn unig, a thuag 800,000 yn Treblinka. Cysylltir y rhaglen yma yn arbennig â Heinrich Himmler a'r SS.

Er bod y nifer o 6 miliwn o Iddewon a laddwyd yn yr Holocost yn cael ei dderbyn gan bron bob ysgolhaig, ceir dadlau chwyrn ar adegau pan fo rhywrai un ai'n gwadu fod yr Holocost wedi digwydd neu'n hawlio fod y nifer a laddwyd yn llawer llai na'r ffigwr yma. Enghreifftiau adnabyddus o hyn yn y blynyddoedd diwethaf yw'r awdur o Sais, David Irving a Mahmoud Ahmadinejad, arlywydd Iran.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]