Schutzstaffel
Gwedd
| Enghraifft o: | sefydliad parafilwrol, Staffel, sefydliad milwrol |
|---|---|
| Math | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
| Idioleg | Natsïaeth |
| Daeth i ben | 8 Mai 1945, 10 Hydref 1945 |
| Dechrau/Sefydlu | 4 Ebrill 1925 |
| Yn cynnwys | SS-Hauptamt |
| Rhagflaenydd | Bayerischer Heimatschutz, Stoßtrupp Adolf Hitler |
| Isgwmni/au | Allgemeine SS, SS-Totenkopfverbände, Sicherheitspolizei, SD-Hauptamt, Ordnungspolizei, SS-Verfügungstruppe, Waffen-SS, SS-Ärztliche Akademie |
| Rhiant sefydliad | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
| Pencadlys | Berlin, München |
| Enw brodorol | SS |
| Gwladwriaeth | Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06qmk |
Roedd y Schutzstaffel, mwy adnabyddus fel yr SS, yn gorff milwrol a diogelwch yn y cyfnod Natsïaidd yn yr Almaen.
Sefydlwyd yr SS yn 1925 fel gwarchodlu personol i Adolf Hitler. Ar y dechrau, roedd yn uned o'r Sturmabteilung (SA). Dan arweiniad Heinrich Himmler rhwng 1929 a 1945, tyfodd i fod yn un o'r cyrff mwyaf pwerus yn yr Almaen. Roedd dwy ran i'r SS, yr Allgemeine-SS, adran wleidyddol y mudiad, a'r Waffen-SS, yr adran filwrol oedd yn ymladd wrth ochr y fyddin heb fod yn rhan ohoni.
Bu gan yr SS ran amlwg iawn yn yr Holocost; hwy oedd yn gyfrifol am y gwersylloedd difa.
Penaethiaid yr SS
[golygu | golygu cod]- Julius Schreck (1925–6)
- Joseph Berchtold (1926–7)
- Erhard Heiden (1927–9)
- Heinrich Himmler (1929–45)
- Karl Hanke (1945)