Neidio i'r cynnwys

Eva Braun

Oddi ar Wicipedia
Eva Braun
GanwydEva Anna Paula Braun Edit this on Wikidata
6 Chwefror 1912 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
Führerbunker Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethffotograffydd, photo lab technician, model Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Heinrich Hoffmann Edit this on Wikidata
TadFriedrich Braun Edit this on Wikidata
MamFranziska Braun Edit this on Wikidata
PriodAdolf Hitler Edit this on Wikidata
PartnerAdolf Hitler Edit this on Wikidata
PerthnasauHermann Fegelein, Paula Hitler, Angela Hitler, Ida Hitler, Otto Hitler, Gustav Hitler, Alois Hitler, Edmund Hitler, Klara Pölzl, Alois Hitler Edit this on Wikidata
llofnod

Eva Braun (6 Chwefror 191030 Ebrill 1945) oedd meistres Adolf Hitler. Roedd hi'n enedigol o München yn Bafaria, de'r Almaen. Roedd hi'n ysgrifenyddes i ffotograffwr ar staff Hitler ac ar ôl peth amser dechreuodd hi fod yn feistres i Hitler. Am ddeuddeg mlynedd neu ragor roedd hi'n ganolog i fywyd personol yr unben, yn ôl tystion o'r cyfnod. Ymddiddorai mewn tynnu lluniau ("y Ferch Rollei" oedd ei llysenw, ar ôl y camerau Rollei) ac mae cyfran fawr o'r lluniau o fywyd personol Hitler yn ffrwyth ei difyrwaith. Roedd hi hefyd yn hoff o dorheulio'n noethlymun (roedd noethlymiaeth yn boblogaidd iawn yn yr Almaen yn y cyfnod Natsïaidd). Lladdodd ei hun, gyda Hitler, yn y byncer yn Berlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae rhai haneswyr yn dweud bod Eva Braun a Hitler wedi priodi cyn y diwedd.


Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.