Andreas Baader

Oddi ar Wicipedia
Andreas Baader
Bathodyn y Rote Armee Fraktion
GanwydBerndt Andreas Baader Edit this on Wikidata
6 Mai 1943 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1977 Edit this on Wikidata
Stammheim Prison Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Grundschule an der Herrnstraße Edit this on Wikidata
Galwedigaethterfysgwr, bohemian Edit this on Wikidata

Roedd Berndt Andreas Baader (6 Mai 1943 - 18 Hydref 1977) yn un o arweinwyr cyntaf y mudiad milwrol adain chwith, Rote Armee Fraktion (Carfan y Fyddin Goch), a elwir hefyd yn Grŵp Baader-Meinhof[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Baader ym München i deulu dosbarth canol, yn unig blentyn i'r hanesydd ac archifydd Dr Berndt Phillipp Baader. Bu Berndt Baader yn gwasanaethu efo lluoedd arfog yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei ddal gan fyddin yr Undeb Sofietaidd ym 1945 ac ni ddychwelodd adref. Cafodd Andreas ei fagu gan ei fam, ei fodryb a'i nain.

Carfan y Fyddin Goch[golygu | golygu cod]

Gadawodd Baader yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ac ef oedd un o'r ychydig prin ymysg aelodau Carfan y Fyddin Goch i beidio â derbyn addysg brifysgol. Er hynny daeth yn gysylltiedig â mudiad protest myfyrwyr y 1960au a chafodd ef a'i gariad ar y pryd, Gudrun Ensslin, cael eu carcharu am osod siopau adrannol yn Frankfurt ar dân ym 1968. Yn feirniadol o fateroliaeth yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd a goruchafiaeth filwrol yr Unol Daleithiau ffurfiodd Garfan y Fyddin Goch gyda Ulrike Meinhof, grŵp o filwyr gorila dinesig tanddaearol. Llwyddodd y garfan i gynorthwyo Baader i ffoi o'r carchar ym 1970. Cafodd. Cyflawnodd y garfan nifer o lofruddiaethau gwleidyddol a gweithredoedd terfysg. Cafodd ei ddal a'i garcharu am oes ym 1977.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Baader, Raspe, Ensslinyn Stuttgart

Ym mis Hydref 1977 cafodd awyren Lufthansa ei herwgipio ym Mogadishu, Somalia gan aelodau'r Garfan mewn ymgais i ddwyn pwysau ar yr awdurdodau i ryddhau rhyddhau Baader a deg aelod arall o'r Garfan oedd hefyd yn y carchar. Ar ôl sawl wythnos, rhyddhawyd teithwyr yr awyren wedi ymosodiad a gynhaliwyd gan heddluoedd GSG 9 yr Almaen yn ystod oriau mân 18 Hydref 1977. Y bore wedyn, canfuwyd Andreas Baader a'i gyd carcharor Jan-Carl Raspe yn eu celloedd carchar wedi marw o glwyfau gwn. Canfuwyd Gudrun Ensslin yn crogi a chafwyd hyd i aelod arall o'r garfan Irmgard Möller wedi ei thrywanu sawl gwaith yn ei frest, fe oroesodd hi. Daeth ymholiadau swyddogol i'r casgliad fod Baader a'r ddau arall wedi cyflawni hunanladdiad. Roedd Möller yn mynnu bod y marwolaethau a'i hanafiadau hi yn weithrediadau o ddienyddiad anghyfreithiol[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chambers Biographical Dictionary (1997 edition with amendments) Baader, Andreas 1943-77 West German terrorist adalwyd 6 Ionawr 2018
  2. Smith, J.; André Moncourt (2008). Daring to Struggle, Failing to Win: The Red Army Faction’s 1977 Campaign Of Desperation. PM Press. tud 28. ISBN 1-60486-028-6
Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Almaenwr neu Almaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.