Unol Daleithiau America
|
|||||
Arwyddair: E Pluribus Unum (traddodiadol) In God We Trust (swyddogol, ers 1956) |
|||||
Anthem: The Star-Spangled Banner |
|||||
Prifddinas | Washington, D.C. | ||||
Dinas fwyaf | Dinas Efrog Newydd | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Dim ar lefel ffederal; Saesneg (de facto) |
||||
Llywodraeth | Gweriniaeth Ffederal | ||||
- Arlywydd | Donald Trump |
||||
- Is-arlywydd | Mike Pence |
||||
Annibyniaeth - Datganwyd - Adnabwyd |
O Brydain Fawr 4 Gorffennaf 1776 3 Medi, 1783 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
9,631,420 km² (3ydd1) 4.87 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2013 - Cyfrifiad 2010 - Dwysedd |
316,544,000 (3ydd) 308,745,538 33/km² (178fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2012 $16.768 triliwn (1af) $53,001 (9fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2013) | 0.914 (5ed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Doler yr Unol Daleithiau (USD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-5 i -10) (UTC-4 i -10) |
||||
Côd ISO y wlad | .us (hefyd .gov .edu .mil .um) | ||||
Côd ffôn | +1 |
||||
1 Dadlir safle arwynebedd gyda China ac weithiau rhoddir ei safle yn 3ydd neu'n 4ydd. |
Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii.
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyn glaniad yr Ewropeiaid cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y Sioux a'r Navajo.
Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America (1776-1783).
Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (Texas, California, Arizona a.y.y.b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddi wrth Mecsico ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo (1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, California, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.
Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.
Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir sawl cadwyn o fynyddoedd yng ngorllewin y wlad megis y Rockies a'r Sierra Nevada. Lleolir mynyddoedd yr Appalachians ger yr arfordir dwyreiniol. Rhwng y Rockies a'r Appalachians, ceir basn afonydd Mississippi a Missouri, y Llynnoedd Mawr a'r Gwastadeddau Mawr.
Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Undeb ffederal o 50 talaith yw'r Unol Daleithiau. Lleolir y brifddinas, Washington D.C., mewn ardal ffederal sy ddim yn perthyn i unrhyw dalaith.
Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhif | Prif ddinas | Talaith | Pobl. | Rhif yr ardal ddinesig | Pobl, ardal ddinesig.[1] | Rhanbarth[2] | ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() Los Angeles |
|||
1 | Dinas Efrog Newydd | Efrog Newydd | 8,250,567 | 1 | 18,818,536 | Gogledd-ddwyrain | ||||
2 | Los Angeles | Califfornia | 3,849,378 | 2 | 12,950,129 | Gorllewin | ||||
3 | Chicago | Illinois | 2,833,321 | 3 | 9,505,748 | Canol-orllewin | ||||
4 | Houston | Texas | 2,169,248 | 6 | 5,539,949 | De | ||||
5 | Phoenix | Arizona | 1,512,986 | 13 | 4,039,182 | Gorllewin | ||||
6 | Philadelphia | Pennsylvania | 1,448,394 | 5 | 5,826,742 | Gogledd-ddwyrain | ||||
7 | San Antonio | Texas | 1,296,682 | 29 | 1,942,217 | De | ||||
8 | San Diego | Califfornia | 1,256,951 | 17 | 2,941,454 | Gorllewin | ||||
9 | Dallas | Texas | 1,232,940 | 4 | 6,003,967 | De | ||||
10 | San Jose | Califfornia | 929,936 | 30 | 1,787,123 | Gorllewin | ||||
Amcangyfrifon o'r Ganolfan Cyfrifiad, 2006 |
Cosb[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd
Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad - ar wahân i Seychelles.[3][4] Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.[5]
Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.
Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd." [6][7]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Table 2. Population Estimates for the 100 Most Populous Metropolitan Statistical Areas Based on July 1, 2006, Population Estimates (PDF). 2005 Population Estimates. U.S. Census Bureau (5 Ebrill, 2007). Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
- ↑ Figure A–3. Census Regions, Census Divisions, and Their Constituent States (PDF). U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
- ↑ United States National Research Council. The Growth of Incarceration in the United States: Exploring Causes and Consequences. Washington, DC: The National Academies Press, 2014. Adalwyd 6 Ionawr 2015:
- "The U.S. penal population of 2.2 million adults is by far the largest in the world. Just under one-quarter of the world's prisoners are held in American prisons."
- ↑ Highest to Lowest - Prison Population Total. International Centre for Prison Studies. Adalwyd 6 Ionawr 2015.
- ↑ Mahapatra, Lisa (19 Mawrth 2014). "Incarcerated In America: Why Are So Many People In US Prisons?". International Business Times. http://www.ibtimes.com/incarcerated-america-why-are-so-many-people-us-prisons-charts-1562451. Adalwyd 3 Tachwedd 2014.
- ↑ Cyfieithiad o: the United States is comprised of only 5 percent of the world’s population, but we incarcerate almost a quarter of the world’s prisoners.
- ↑ groundreport.com; adalwyd 6 Ionawr 2015
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Porth swyddogol yr Unol Daleithiau
|
|
|