Almaenwyr
Jump to navigation
Jump to search
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
Grŵp ethnig, demonym cenedlaethol, Cenedligrwydd, Poblogaeth, Pobl ![]() |
Math |
person, Ewropeaid, preswylydd, Ewropeaid Gorllewinol ![]() |
Mamiaith |
Almaeneg ![]() |
Label brodorol |
Deutsche ![]() |
Crefydd |
Protestaniaeth, catholigiaeth ![]() |
Gwlad |
Yr Almaen ![]() |
Yn cynnwys |
Bafariaid, Swabiaid, Almaenwyr-Rwsiaidd, Ffranconiaid, Sacsoniaid, Americanwyr Almaenig, Alsatians ![]() |
Enw brodorol |
Deutsche ![]() |
Gwladwriaeth |
Yr Almaen, Unol Daleithiau America, Canada, Brasil, Awstralia, Yr Ariannin, Rwsia, Casachstan, Gwlad Pwyl, Tsile, Rwmania, Y Weriniaeth Tsiec, Awstria, Y Swistir, Liechtenstein ![]() |
![]() |

Almaenwyr enwog, o'r chwith i'r dde: Luther, Beethoven, Bismarck, Kant, Planck, Noddack-Tacke, Angela Merkel, Claudia Schiffer.
Pobl o'r Almaen yw Almaenwyr (Almaeneg: Deutsche), a grŵp ethnig yn y modd bod ganddynt ddisgyniaeth a diwylliant yn gyffredin, ac yn siarad yr iaith Almaeneg fel mamiaith. O fewn yr Almaen, caiff Almaenwyr eu diffinio gan ddinasyddiaeth Almaenig (Bundesdeutsche), oddi wrth bobl sydd â disgyniaeth Almaenig (Deutschstämmige). Yn hanesyddol, yng nghyd-destun Ymerodraeth yr Almaen (1871–1918), gwahaniaethwyd rhwng dinasyddion Almaenig (Reichsdeutsche) ac Almaenwyr ethnig (Volksdeutsche).