Rwtheniaid

Oddi ar Wicipedia
Rwtheniaid
Cyfanswm poblogaeth
Tua 1 miliwn yn Nwyrain Ewrop
Ieithoedd
Yn hanesyddol: Hen Rwtheneg, Belarwseg
Heddiw: Rwtheneg, Wcreineg, Slofaceg
Crefydd
Uniongrededd Dwyreiniol, Catholigiaeth
Grwpiau ethnig perthynol
Wcreiniaid, Belarwsiaid, Carpatho-Rwsiaid a Slafiaid eraill

Pobl Slafig Ddwyreiniol sydd yn glos iawn i'r Wcreiniaid, neu'n is-grŵp ohonynt, yw'r Rwtheniaid. Yn gyffredinol maent yn Wcreiniaid oedd yn hanesyddol yn ddeiliaid i Wlad Pwyl, Awstria ac Awstria-Hwngari.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar cafodd Rwthenia ei goncro gan Lithwania, a unodd yn hwyrach â Gwlad Pwyl. Cymhathodd Rwtheniaid y dosbarth uchaf yng Ngalisia, Bukovina, a Charpathia i gymdeithas Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania, gan fabwysiadu'r Bwyleg a Phabyddiaeth, tra'r oedd y werin yn byw mewn tlodi.[1]

Yn sgil rhaniad Gwlad Pwyl yn hwyr y 18g, bu nifer o Rwtheniaid unwaith eto yn byw dan reolaeth Rwsia, a throdd nifer ohonynt yn ôl i'r Eglwys Uniongred. Tyfodd genedlaetholdeb Rwthenaidd yn sgil ymlacio'r ormes a fu yn Rwsia cyn Chwyldro 1905, a chynyddodd cefnogaeth dros ymreolaeth yng Ngwlad Pwyl ac Awstria ar ddechrau'r 20g hefyd.[1]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf hawliodd y Rwtheniaid yn Nwyrain Galisia eu hunanbenderfyniad, ond cafodd eu tiriogaeth ei llyncu gan Wlad Pwyl. Daeth y Rwtheniaid yng ngogledd ddwyrain Carpathia yn rhan o Tsiecoslofacia gyda thalaith eu hunain, Carpathia-Wcráin. Daeth Rwtheniaid Besarabia a Bukovina dan reolaeth Rwmania a'u diogelu gan Gytundeb Lleiafrifoedd Rwmania.[1]

Gweriniaeth Carpathia-Rwthenia[golygu | golygu cod]

Avgustyn Voloshyn, Arlywydd Gweriniaeth Carpathia-Rwthenia.

Collodd Tsiecoslofacia rhywfaint o'i thiriogaeth dan Gytundeb München a phenododd llywodraeth hunanlywodraethol yn Rwthenia ar 9 Hydref 1938.[1] Ar fore 15 Mawrth 1939 datganodd Gweriniaeth Carpathia-Rwthenia ei hannibyniaeth wrth i'r Almaen Natsïaidd oresgyn Tsiecoslofacia. Erbyn diwedd y diwrnod hwnnw, cafodd y diriogaeth ei goresgyn gan Hwngari,[2] a'i chyfeddiannu ar 16 Mawrth.[1]

Ers yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Cafodd Rwthenia ei rhyddhau gan luoedd Sofietaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ildiodd Tsiecoslofacia y diriogaeth i'r Undeb Sofietaidd a daeth yn oblast Zakarpatskaya ("Trawsgarpathaidd") yn Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd yr Wcráin. Bu'r Undeb Sofietaidd hefyd yn rheoli'r rhan fwyaf o Bukovina a Galisia, ac felly adunwyd y mwyafrif helaeth o Rwtheniaid ac Wcreiniaid yn yr un wladwriaeth. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd trigai'r mwyafrif o Rwtheniaid yn yr Wcráin.[1]

Heddiw mae tua 1 miliwn o Rwtheniaid yn byw ym Mynyddoedd Carpathia yn Slofacia, Gwlad Pwyl, a'r Wcráin, a rhai yn y cyn-Iwgoslafia. Mae eu hunaniaeth yn ailddeffro wedi degawdau o ormes gan y comiwnyddion. Yn anaml y mae grwpiau ethnig eraill yr ardal yn sôn am "Rwthenia": dywed "Is-Garpathia" yn y Weriniaeth Tsiec a Slofacia, a "Thraws-Garpathia" yn yr Wcráin. Ni chydnabuwyd y Rwtheniaid fel lleiafrif ethnig gan lywodraeth yr Wcráin nes 2007.[2]

Crefydd[golygu | golygu cod]

Dan Gymanwlad Lithwania a Gwlad Pwyl, ymofynnodd yr offeiriaid Uniongred Rwthenaidd am nawdd yr Eglwys Babyddol yn Rhufain. Cytunodd y Pab i Undeb Brest-Litovsk ym 1596 gan sefydlu "eglwys uniadol" gyda'r Rwtheniaid yn cadw'r litwrgi Slafonig a'r rhan fwyaf o allanolion yr eglwys Uniongred Roegaidd, tra'n cydnabod goruchafiaeth ysbrydol y Pab. Sefydlwyd esgobaeth fetropolitanaidd yn Lviv ym 1806 a swffraganiaid yn Przemyśl ac Ivano-Frankivsk.[1]

Heddiw mae'r mwyafrif yn Gatholigion sy'n dilyn defodau dwyreiniol a rhai yn Uniongred.[2]

Iaith[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol siaradodd y Rwtheniaid yr Hen Rwtheneg, a ddatblygodd yn Felarwseg, Wcreineg, a'r Rwtheneg fodern.

Siaredir yr iaith Rwtheneg fodern gan dua 623,500 o bobl, 560,000 ohonynt yn yr Wcráin.[3] Mae nifer yn ei hystyried yn dafodiaith Wcreineg.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (Saesneg) Ruthenian (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Ruthenia: A glimpse of daylight. The Economist (12 Mawrth 2009). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Rusyn. Ethnologue. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]