Walwniaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pobl Ladinaidd sy'n frodorol i Walonia yn ne Gwlad Belg yw'r Walwniaid. Maent yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg a'r Walwneg. Disgynna'r Walwniaid o'r Gâl-Rufeiniaid a chanddynt waedoliaeth Germanaidd o'r hen Ffranciaid. Maent yn cyfri am ryw traean o boblogaeth Gwlad Belg, ac hwy yw grŵp ethno-ieithyddol fwyaf y wlad ar ôl y Ffleminiaid. Amcangyfrifir bod 4.2–5.3 miliwn o Walwniaid ethnig yn y flwyddyn 2015.[1]

Map ieithyddol Walonia.

Mae'r mwyafrif o Walwniaid a Ffleminiaid yn rhannu'r un traddodiad crefyddol, Pabyddiaeth, ac hanes gwleidyddol hir, ond nid yw'r ddwy gymdeithas yn siarad yr un ieithoedd. Iaith Romáwns a chanddi is-haen Gelteg a dylanwadau Germaneg yw'r Walwneg, a elwir weithiau yn "Hen Ffrangeg".[1] Yn yr 20g, cafodd ffurf safonol ar Ffrangeg ei ymsefydlu yn Walonia, ac erbyn heddiw dim ond rhyw draean o Walwniaid sy'n medru'r iaith frodorol. Ceir sefyllfa debyg i'r gogledd, lle mae'r Iseldireg wedi cymryd tir oddi ar Fflemeg. Er bod trigolion Ffrangeg y brifddinas Brwsel yn rhannu tras debyg â thrigolion Walonia, nid ydynt fel rheol yn ystyried eu hunain yn Walwniaid.[2]

O ran y Walwniaid Ffrangeg, siaredir Picardeg yng ngorllewin Walonia a Champenois a Lorrain yn y de-ddwyrain. Yn ogystal â phoblogaeth frodorol Walonia, triga Walwniaid sy'n siarad Walwneg yn département Ardennes yn Ffrainc, yn enwedig yr ardal o dir a amgylchynir gan y ffin â Gwlad Belg ar lannau Afon Moûze. Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r gymuned Almaeneg ger y ffin a'r Almaen, ac nid yw'r boblogaeth hon yn Walwniaid. Yn ne-ddwyrain Walonia mae siaradwyr Lwcsembwrgeg ger y ffin â Lwcsembwrg, ac fel rheol ystyrir y rhain yn Walwniaid yn hytrach na rhan o'r gymuned Almaeneg. O ganlyniad i ymfudo, triga nifer o bobl o dras Walwnaidd yn Québec, Canada, ac yn Wisconsin, UDA.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwreiddiau'r genedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgynnai'r Walwniaid yn bennaf o'r Belgae, llwyth Celtaidd Galaidd a roddasant ei enw i Wlad Belg. Llwyddodd y Belgae i wrthsefyll y Rhufeiniaid am saith mlynedd cyn iddynt ildio yn y flwyddyn 57 CC.[1] Cymysgodd rhywfaint o'r goresgynwyr Rhufeinig â'r Galiaid yn ystod eu presenoldeb yn yr ardal o'r 1g CC i'r 5g OC. Cyrhaeddodd llwythau Germanaidd, yn bennaf y Ffranciaid, yr ardal yn y 3g a'r 4g OC. I ddechrau, rhennid y Germaniaid a'r Celtiaid gan y coedwigoedd sy'n croesi gogledd canolbarth Gwlad Belg heddiw, i'r de o ddinas Brwsel.[2] Yn y flwyddyn 358 OC cafodd y boblogaeth Âl-Rufeinig ei gwthio i'r de gan y Saliaid, llwyth o'r Ffranciaid, a sefydlogwyd y ffin ieithyddol sydd wedi goroesi mwy neu lai hyd heddiw.[1] Yn sgil enciliad y lluoedd Rhufeinig yn y 5g, ymledodd y Ffranciaid i'r de ac i'r tir sydd heddiw yng ngogledd Ffrainc. Arhosodd hynafiaid y Walwniaid yn y gwastatir a'r Ardennes, a sefydlasant poblogaeth barhaol er gwaethaf datblygiad teyrnasoedd y Germaniaid o'u cwmpas.[2]

Yn ystod yr oes Rufeinig, cafodd y boblogaeth ei Ladineiddio i raddau helaeth, yn fwy felly na'r Ffrancod.[1] Parhaodd y boblogaeth yn ne'r ardal i siarad iaith y Gâl-Rhufeiniaid, sef ffurf ar Ladin llafar. Dros amser, datblygodd y dafodiaith leol yn un o'r langues d'oïl, ar y cyd a'r Ffrangeg, ac yn un o sawl iaith Romáwns sydd yn tarddu o Ladin. I'r gogledd, siaredid tafodieithoedd Germanaidd, a ddatblygodd yn Fflemeg ac Iseldireg.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Er y cysylltiad ieithyddol agos gyda'r Ffrancod, bu hanes y Walwniaid yn rhan o'r tiroedd hynny rhwng Ffrainc a'r Almaen. Yn y 15g, unwyd Walwnia a Fflandrys dan reolaeth Dugiaid Bwrgwyn, ac ym 1477 dan y Habsbwrgiaid. Ymgorfforwyd Walwnia a Fflandrys yn yr Iseldiroedd ym 1815. Yn y flwyddyn 1830 gwrthryfeloedd y Walwniaid a'r Ffleminiaid, wedi uno gan Babyddiaeth, yn erbyn rheolaeth Brotestaniaid yr Isalmaenwyr yn y gogledd. Enillodd Teyrnas Gwlad Belg ei hannibyniaeth ym 1831.[1]

Un o'r ddwy genedl Felgaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Am ganrif, dominyddwyd gwleidyddiaeth Gwlad Belg gan y gymdeithas Walwnaidd er yr oedd yn llai o faint na'r gymdeithas Ffleminaidd. Ar y dechrau, Walwneg oedd iaith weinyddol y llywodraeth, ond erbyn y 1860au Ffrangeg safonol oedd y lingua franca. Yn nechrau'r 20g, daeth iaith i gymryd tir yn y diwylliant gwleidyddol oddi ar grefydd, ac felly dangoswyd rhwygau rhwng y Walwniaid a'r Ffleminiaid. Cydnabuwyd Fflemeg yn briod iaith Fflandrys. Wedi'r Ail Ryfel Byd, dirywiodd diwydiannau trymion Walonia a ffynnodd economi Fflandrys yn enwedig yn y porthladdoedd. Rhannwyd Gwlad Belg yn ddwy dalaith ymreolaethol, a'r brifddinas Brwsel yn ardal ddwyieithog arbennig. Erbyn yr 21g, dim ond y frenhiniaeth sydd un uno'r wlad yn wleidyddol, ac mae mudiadau cenedlaetholgar yn dadlau dros annibyniaeth i Walonia ac i Fflandrys fel ei gilydd.[1]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Er datblygiad yr iaith lafar yn iaith Romáwns, Lladin oedd prif iaith lenyddol yr ardal o'r 9g i'r 11g. Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Traddodiad yn yr 17g oedd y pasquèyes, cerddi ar bynciau lleol yn iaith y werin. Yn ddiweddarach, cyfansoddwyd caneuon, dramâu a libretos yn Walwneg. Sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn Liège ym 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg. Cafodd sillafu a gramadeg yr iaith eu safoni gan ysgolheigion yn yr 20g, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 456–57.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Carl Waldman a Catherine Mason. Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 855.