Walonia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Walonia
La Citadelle de Namur.JPG
Coat of arms of Wallonia.svg
Mathrhanbarth yng Ngwlad Belg Edit this on Wikidata
Nl-Wallonië.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasNamur Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,645,243 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 8 Awst 1980 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethWilly Borsus Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg, Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Belg Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Arwynebedd16,844 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr163 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFflandrys, Rheinland-Pfalz, Limburg, Nordrhein-Westfalen, Champagne-Ardenne, Hauts-de-France, Dwyrain Mawr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.35°N 5.27°E Edit this on Wikidata
BE-WAL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholParliament of Wallonia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Minister-President of Wallonia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethWilly Borsus Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Walonia (gwyrdd tywyll) o fewn Gwlad Belg (golau gwyrdd) ac Ewrop

Rhanbarth sy'n ffurfio rhan ddeheuol Gwlad Belg yw Walonia (Ffrangeg: Wallonie, Iseldireg: Wallonië). Dyma'r rhan Ffrangeg ei hiaith o Wlad Belg, er bod tua 70,000 o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith yn y dwyrain.

Y brifddinas yw Namur, er mai Charleroi yw'r ddinas fwyaf a Liège yr ardal ddinesig fwyaf. Gydag arwynebedd o 16.844 km² mae Walonia'n ffurfio 55% o Wlad Belg, ond yn cynnwys dim ond 33% o'r boblogaeth, 3,456,775 yn 2008. Daw'r enw o'r un gwreiddyn Almaenaidd a Wales am Gymru, o *Weleas, yn golygu tramorwyr Lladin eu hiaith neu Rufeiniedig. Rhennir Walonia yn bum talaith:

Yn ystod y 19g a dechrau'r 20g, roedd Walonia yn ardal ddiwydiannol bwysig, ac yn gyfoethocach na Fflandrys, y rhan Iseldireg ei iaith o Wlad Belg. Gyda dirywiad y diwydiannau trwm, mae yn awr yn llai cyfoethog na Fflandrys. Mae gan Walonia ei hanthem genedlaethol eu hun, Le Chant des Wallons.