Arlon
Jump to navigation
Jump to search
Tref yng Ngwlad Belg a phrifddinas talaith Luxembourg yw Arlon (Lwcsembwrgeg ac Almaeneg: Arel, Iseldireg: Aarlen). Saif 185 km i'r de-ddwyrain o ddinas Brwsel. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 26,367.
Gyda Tournai a Tongres, Arlon yw tref hynaf Gwlad Belg. Fe'i sefydlwyd gan y Celtiaid, a gelwid hi yn Orolaunum Vicus gan y Rhufeiniaid. Yn y Canol Oesoedd, hi oedd canolfan llinach Dugiaid Arlon.