Hainaut
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Un o ddeg talaith Gwlad Belg yw Hainaut (Iseldireg: Henegouwen). Hi yw'r fwyaf gorllewinol o daleithiau Walonia, ac mae'n ffinio ar Ffrainc yn y gorllewin. Mae ganddi arwynebedd o 3,786 km² a phoblogaeth o 1,294,844 yn 2007. Y brifddinas yw Mons.
Fel yn y rhan fwyaf o ranbarth Walonia, Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol.