Arberesh

Oddi ar Wicipedia

Arberesh neu Arbëresh yw'r enw ar y bobl o dras Tosc Albaneg sydd wedi byw yn neheudir yr Eidal ers yr Oesoedd Canol. Bu i'r bobl ffoi mewn sawl ton o Albania yn y 14g a 18g o ganlyniad i goncwest yr Otomaniaid o'r Balcan. Ymsefydlon nhw mewn pentrefi gwasgaredig yn nhaleithiau Apulia, Basilicata, Calabria, Molise a Sisili. Maent yn siarad fersiwn hynafol o'r dafodiaith Tosceg yr iaith Albaneg.

Mae'r rhan fwyaf o'r hanner cant o gymunedau Arberesh yn aelodau o'r Eglwys Eidalo-Albanaidd. Mae ei ffydd Byzantaidd wedi bod yn gymorth i gadw undod y gymuned dros y canrifoedd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Map Ethnograffig: 1859 y boblogaidd Albanaidd mewn gwyrdd
Tiroedd ethno-ieithyddol Albaneg

Cafwyd sawl ton o ymfudwyr o Albania i'r Eidal a Gwlad Groeg gyfoes gan gychwyn yn y 11g. Bu i'r mudo i wlad Groeg esgor ar gymuned yr Arfanitiaid. Roedd enwogrwydd yr Albaniaid fel ymladdwyr yn eu gwneud yn boblogaidd gyda brenhinoedd yr Eidal. Cynyddwyd y pwysau ar ymfudo wrth i'r Otomaniaid Twrceg ymestyn ei hymerodraeth drwy'r Balcan.

Wedi marwolaeth brenin enwog yr Albaniaid, Skanderbeg yn 1468, daeth gallu i'r Albanaid wrthsefyll yr Otomomaniaid i ben a bu i don arall ymfudo i'r Eidal i bentrefi oedd eisoes wedi eu sefydlu gan yr Albaniaid a sefydlwyd pentrefi newydd yn y 15g.

Bu i'r tonnau anferth o fudo o dde'r Eidal i gyfandir America yn 1900-1910 ac o 1920-40 di-boblogi oddeutu hanner y pentrefi Arbereshe. Bu bron i hyn ddifa'r diwylliant lleol a oedd wedi dechrau magu adfywiad ddiwyllianol an g19.

Gyda chwymp Comiwnyddiaeth yn Albania yn 1990, gwelwyd ton newydd o fudo o Albania i bentrefi'r Arbereshe.

Iaith[golygu | golygu cod]

Dosbarthiad tafodieithoedd yr iaith Albaneg

Daw Arbëresh o'r dafodiaith Tosc a siaredir yn ne Albania, ac fe'i siaredir yn Ne'r Eidal yn rhanbarthau Calabria, Molise, Apulia, Basilicata, Campania, Abruzzi, a Sisili. Mae pob tafodiaith o Arbëresh yn perthyn yn agos i'w gilydd ond nid ydynt yn hollol ddealladwy i'r naill ochr a'r llall.

Arwyddion ffyrdd dwyieithog, Eidaleg ac Albaneg yn Piana degli Albanesi

Mae'r dafodiaith Arbëresh yn cadw llawer o hen elfennau o Albaneg canoloesol cyn concwest Albania gan yr Otomaniaid yn y 15g. Mae hefyd yn cadw rhai elfennau iaith Groeg, gan gynnwys geirfa ac ynganiad. Mae hefyd wedi cadw rhai nodweddion ceidwadol a gollwyd yn y prif ffrwd Albanian Tosc. Mae'n swnio'n fwy darluniadol nag Albaneg safonol, ond mae'n ddigon agos ei fod wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio'r un wyddor Albanaidd. Mae profiad siaradwr Albaneg o Albania wrth wrando ar, neu ddarllen Arbërisheg, yn debyg i siaradwr Cymraeg modern sy'n gwrando ar neu yn darllen Cymraeg William Morgan. Mae iaith Arbëresh o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr yr iaith Albanaidd fodern gan ei fod yn cynnwys synau, gramadeg a geirfa Albaniaidd cyn-Otomanaidd.

Yn gyffredinol, gelwid yr Arbërishtiaid yn Albanese (Albaniaid yn yr iaith Eidalaidd) yn yr Eidal tan y 1990au. Hyd yn ddiweddar, dim ond syniadau annelwig iawn oedd gan siaradwyr Arberesheg am sut oedd eu hiaith yn gysylltiedig ag Albania. Hyd at yr 1980au, roedd Arberesheg yn dafodiaith lafar yn unig, heblaw am ei ffurf ysgrifenedig a ddefnyddiwyd yn yr Eglwys Eidalo-Albania, ac nid oedd gan Arbëreshë gysylltiad ymarferol â'r iaith Albaneg safonol a ddefnyddiwyd yn Albania, gan nad oeddent yn defnyddio'r ffurf hon yn ysgrifenedig neu mewn cyfryngau. Pan ddechreuodd nifer fawr o fewnfudwyr o Albania fynd i'r Eidal yn y 1990au a dod i gysylltiad â chymunedau Arbëreshë lleol, roedd y gwahaniaethau a'r tebygrwydd am y tro cyntaf yn hysbys. Mae gan yr Arberesh deimladau cymysg tuag at yr "Albaniaid newydd".[1]

Ers y 1980au, trefnwyd rhai ymdrechion i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol yr iaith. Mae Arberesheg wedi bod o dan ddirywiad araf yn y degawdau diwethaf, ond ar hyn o bryd mae yna adfywiad mewn llawer o bentrefi yn yr Eidal. Mae ffigurau megis Giuseppe Schirò Di Maggio wedi gwneud llawer o waith ar lyfrau ysgol ac offer dysgu iaith eraill yn yr iaith, gan gynhyrchu dau lyfr 'Udha e Mbarë' a 'Udhëtimi', a ddefnyddir mewn ysgolion ym mhentref Piana degli Albanesi.

Nid oes strwythur gwleidyddol, gweinyddol na diwylliannol swyddogol i gynrychioli'r gymuned Arbëresh. Yr Arbërësh yn un o'r grŵp o ieithoedd lleiafrifol sy'n mwynhau lleiaf o statws y Wladwriaeth o dan Erthygl 6 o Gyfansoddiad yr Eidal. Ar y lefel ranbarthol, fodd bynnag, mae Arbërisheg yn cael rhywfaint o gydnabyddiaeth swyddogol yn neddfau ymreolaeth Calabria, Basilicata a Molise.

Mewn rhai cymunedau, mae'r awdurdodau lleol yn cefnogi gweithgareddau diwylliannol ac ieithyddol a hyrwyddir gan gymunedau Arbëresh ac maent wedi cytuno i godi arwyddion ffyrdd dwyieithog.[2] Mae yna gymdeithasau sy'n ceisio amddiffyn y diwylliant, yn enwedig yn Nhalaith Cosenza. Defnyddir yr iaith Arbëresh mewn rhai gorsafoedd radio a chyhoeddiadau preifat. Mae cyfreithiau sylfaenol ardaloedd Molise, Basilicata a Calabria yn cyfeirio at iaith a diwylliant Arbëresh. Serch hynny, mae'r cynnydd mewn hyfforddiant yn y defnydd o'r iaith ysgrifenedig wedi rhoi rhywfaint o obaith i barhad y diwylliant hwn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. New Albanian Immigrants in the Old Albanian Diaspora: Piana Degli Albanesi. Eda Derhemi
  2. Euromosaic – Albanian in Italy.