Montenegro
|
|||||
| Arwyddair: dim | |||||
| Anthem: Oj, svijetla majska zoro O, wawr lachar o Mai |
|||||
| Prifddinas | Podgorica | ||||
| Dinas fwyaf | Podgorica | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Montenegreg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
| - Arlywydd | Filip Vujanović |
||||
| - Prif Weinidog | Igor Lukšić |
||||
| Annibyniaeth - Datganwyd - Cydnabuwyd |
Diddymiad Serbia a Montenegro 3 Mehefin 2006 8 Mehefin 2006 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
14,026 km² (156ain) 0.015% |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2004 - Cyfrifiad 2003 - Dwysedd |
630,548 (164ain) 620,145 44.9/km² (126ain) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $2.412 biliwn (179ain) $3,800 (119eg) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.788 (72ain) – canolig | ||||
| Arian cyfred | Euro (EUR) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .me (.yu)1 | ||||
| Côd ffôn | +382 |
||||
| 1 côd y gyn-Iwgoslafia | |||||
Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan Môr Adria yw Gweriniaeth Montenegro neu Montenegro. Mae'n ffinio ag Albania i'r de-ddwyrain, Serbia (gan gynnwys Kosovo) i'r gogledd-ddwyrain, Bosnia-Hertsegofina i'r gogledd-orllewin a Croatia i'r gorllewin. Roedd Montenegro yn rhan o Serbia a Montenegro o 2003 i 2006. Ei phrifddinas (a'i dinas mwyaf o ran maint) yw Podgorica ac mae Cetinje yn cael ei nodi fel Prijestonica (Пријестоница), sef Dinas Frenhinol.[1].
Mae Montenegro'n aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig ac ar y rhestr aros am aelodaeth lawn o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffinia gyda'r gwledydd canlynol: Croatia, Bosnia a Herzegovina, Serbia, ac Albania.
Dyma rai o ddinasoedd a threfi mwyaf y wlad:
- Podgorica (prifddinas; 136,473 o bobl)
- Nikšić (58,212)
- Pljevlja (21,377)
- Bijelo Polje (15,883)
- Cetinje (prifddinas brenhinol; 15,137)
- Bar (13,719)
- Herceg Novi (12,739)
- Berane (11,776)
Mynyddoedd garw ydy nodwedd amlycaf ei ffin gyda Serbia ac Albania a cheir y pegwn arall hefyd - gwastatir arfordirol milltir i bedair milltir o ran hyd gyda Mount Lovćen a Mount Orjen yn torri'r undonedd gan ddisgyn yn serth i Fae Kotor.
- Traeth hiraf: Velika Plaža, Ulcinj sy'n 13,000 metr (8 milltir)
- Copa Uchaf: Zla Kolata, Prokletije sy'n 2,534 m
- Llyn hiraf: Llyn Skadar — 391 km² (151 milltir sgwar) o arwynebedd
- Ceunant tyfnaf: Ceunant Afon Tara — 1,300 m (4,265 troedfedd)
- Bae mwyaf: Bae Kotor
- Parc Cenedlaethol: Durmitor — 390 km² (150 milltir sgwar), Lovćen — 64 km² (25 milltir sgwar), Biogradska Gora — 54 km² (21 milltir sgwar), Skadar Lake — 400 km² (154 milltir sgwar)
- Safle Treftadaeth y Byd: Durmitor a Ceunant Afon Tara, ynghyd â hen ddinas Kotor.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|||||
