Manawiaid

Oddi ar Wicipedia

Cenedl a grŵp ethnig sydd yn frodorol i Ynys Manaw yw'r Manawiaid. Pobl Geltaidd ydynt sydd yn disgyn o'r Gaeliaid, a bu cryn dylanwad ar eu hanes a'u diwylliant gan y Llychlynwyr a'r Saeson yn ogystal â'u cyd-Geltiaid y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Cymry. Yn hanesyddol, Manaweg oedd eu hiaith frodorol, a bu'r iaith honno ar fin farw yn yr 20g, ond bellach mae rhywfaint o adfer yr iaith ar yr ynys.

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae bron 85,000 o bobl yn byw yn Ynys Manaw, ond dim ond 47.6% a aned ar yr ynys, ac mae nifer o'r rheiny yn disgyn o fewnfudwyr o Loegr. Gellir dweud felly bod y Manawiaid yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.