Slafiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cangen ieithyddol ac ethnig o'r bobloedd Indo-Ewropeaidd yw'r Slafiaid. O'u mamwlad gyntefig ar wastatiroedd Wcráin, ymledodd y bobloedd Slafaidd dros rhan helaeth o Ddwyrain Ewrop, gan wladychu'r Balcaniaid, glannau'r Baltig a Rwsia yn yr Oesoedd Canol cynnar. Gyda thwf Ymerodraeth Rwsia o'r 16eg ganrif ymlaen, daeth Siberia ac ardaloedd eraill gogledd Asia o dan reolaeth Slafiaid.

Yn draddodiadol, dosbarthir y Bobloedd Slafaidd ar sail iaith yn dri grŵp: Slafiaid y Gorllewin (Tsieciaid, Pwyliaid, Slofaciaid a Sorbiaid), Slafiaid y Dwyrain (Belarwsiaid, Wcreiniaid a Rwsiaid) a Slafiaid y De (Bwlgariaid a bobloedd yr hen Iwgoslafia: Bosniaid, Croatiaid, Macedoniaid, Montenegroaid, Serbiaid a Slofeniaid).

Y famwlad Slafaidd[golygu]

Er ei bod yn eglur bod y famwlad Slafaidd gyntefig rhywle yn Nwyrain Ewrop, mae dadleuon ymysg ysgolheigion am ei lleoliad pendant. Gwyddys i'r Slafiaid wladychu ardal y Balcaniaid a'r rhan fwyaf o Rwsia yn ystod y cyfnod hanesyddol. Yn ôl y farn fwyaf cyffredin, lleoliad y famwlad Slafaidd oedd ar hyd canol yr afon Dnieper, ardal sydd heddiw yn cyfateb i ogledd canol a gorllewin Wcráin a de Belarws. Mae'n amhosibl ail-lunio unrhyw dermau morwrol (er enghraifft, gair am 'cwch' neu 'angor') na gair am 'ambr' yn y gyn-iaith Slafaidd. Mae hyn yn sail i gredu nad oedd y famwlad yn cyrraedd glanau'r Baltig. Nid yw ffynonellau Rhufeinig yn crybwyll y Slafiaid cyn y chweched ganrif. Unwaith eto, mae hyn yn awgrymu nad oedd yna ddim Slafiaid ar gyrion gogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae tystiolaeth ieithyddol yn dangos hefyd bod y Slafiaid cynnar mewn cysylltiad clòs am beth amser â phobloedd Iranaidd a Germanaidd. Mae nifer o eiriau am gysyniadau crefyddol (er enghraifft y geiriau cyn-Slafoneg am 'duw' a 'paradwys') wedi'u benthyg gan y gyn-iaith Iranaidd. Roedd llwythi Iranaidd (y Scythiaid a'r Sarmatiaid) yn trigo i'r gogledd o'r Môr Du yn ail hanner y mileniwm cyntaf CC, a Gothiaid yn yr un ardal yn ddiweddarach. Mae'r dystiolaeth hyn i gyd yn ddilys â lleoliad i'r famwlad Slafonaidd i'r gogledd o'r llythi hyn, ond heb fod mor bell â Môr Baltig. Mae hyn yn agos iawn at y famwlad Indo-Ewropeaidd ei hun.

Yr ymfudiadau Slafaidd[golygu]

Erbyn y chweched a'r seithfed ganrifoedd OC, yn ôl haneswyr Rhufeinig a Groeg, fel Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid 'De origine actibusque Getarum' a Procopius yn ei ysgrifau yntau, cartref y llythi Slafaidd oedd yr ardal i'r gogledd o'r afon Donaw (Donwy), mewn rhwymyn o dir rhwng y Fistwla uchaf a'r afon Dnepr (Wcrain a Gwlad Pwyl heddiw). O'r bumed i'r ddegfed ganrif roedd ffiniau tiriogaeth y Slafiaid yn ystwyth iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, ehangodd y Slafiaid eu tiriogaeth yn sylweddol, gan ymfudo o'u mamwlad ym mhob cyfeiriad, a dechreuodd eu iaith ymrannu i greu'r tair cangen a welir heddiw. Daeth yr ymfudiadau hyn â'r Slafiaid i'r gogledd a gogledd-ddwyrain (Rwsia heddiw), lle daethant mewn cysylltiad â phobloedd Baltaidd a Ffinno-Wgraidd. Yn y De, croesasant yr afon Donaw i gyrraedd tiroedd yrYmerodraeth Fysantaidd ac ymsefydlu yng ngwledydd heddiw Slafiaid y De (Bwlgaria, Serbia, Croatia ayyb). Yn y gorllewin, ymgartrefodd y Slafiaid ar lannau'r Môr Baltig gan gymysgu â llwythi Baltaidd a Germanaidd hyd at ogledd a dwyrain yr Almaen. Fel hyn y mae'r Brut Cynradd Rwsieg yn disgrifio'r sefyllfa:

Dros cyfnod hir gwladychodd y Slafiaid ar lannau'r Donaw, lle mae'r tiroedd Hwngaraidd a Bwlgaraidd yn gorwedd heddiw. O blith y Slafiaid hyn, ymwasgarodd carfannau dros y wlad, ac fe'u hadnabuwyd gan enwau perthnasol, yn ôl y llefydd a wladychodd. Felly daeth rhai i wladychu ger yr afon Morava, ac fe'i henwyd yn Morafiaid, tra i eraill gael eu henwi'n Tsieciaid.

Yr ieithoedd Slafaidd[golygu]

Heddiw mae tua 430 miliwn o bobl yn siarad iaith Slafaidd. Rwsieg yw'r un â'r nifer fwyaf o siaradwyr (255 miliwn).