Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brut Cynradd Rwsieg)

Cronicl o Rws Kyiv sy'n adrodd hanes Slafiaid y Dwyrain o'r Dilyw hyd at y flwyddyn 1110 yw Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen (Hen Slafoneg Dwyreiniol: Повѣсть времѧньныхъ лѣтъ trawslythreniad: Pověstĭ vremęnĭnyxŭ lětŭ). Daw enw'r gwaith o frawddeg agoriadol ei destun: "Dyma hanesion y blynyddoedd o'r blaen parthed tarddiad gwlad Rws, tywysogion cyntaf Kyiv, ac o ba ffynhonnell y dechreuodd gwlad Rws." Fe'i elwir hefyd yn Gronicl Cynradd Rwsia, Cronicl Kyiv, neu Gronicl Nestor.

Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y 12g, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a ysgrifennwyd yn Kyiv ym 1113. Priodolid yn draddodiadol i fynach o'r enw Nestor, ond bellach fe'i cydnabyddir yn gywaith neu gasgliad o sawl gwaith gwahanol, yn seiliedig ar ddeunydd o groniclau Bysantaidd, ffynonellau Slafig o'r de a'r gorllewin, dogfennau swyddogol Rws, a'r traddodiad llafar. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl groniclau canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw o wledydd Rwsia, Belarws, ac Wcráin, cynhwysir y llawysgrif hynaf ohono yng Nghodecs Laurentius, sy'n dyddio o 1377. Y prif lawysgrifau eraill yw Codecs Ipatiev (oddeutu 1425), Cronicl Radziwiłł a Chronicl Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y 15g). Pery'r hanes yng Nghodecs Ipatiev hyd at 1117, yng Nghronicl Radziwiłł hyd at 1206, ac yng Nghronicl Academi Moscfa hyd at y 15g.

Dyfodiad Rurik yn Ladoga gan Apollinary Vasnetsov (1856-1933)

Ynghyd â Chronicl Cyntaf Novgorod, mae Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd Llychlynnaidd a'u llwyth, y Rws, i greu seiliau gwladwriaeth Rws Kyiv yn 862:

"Dywedodd y Chud (llwyth Ffinnaidd) a'r Slovene a'r Krivichi (llwythi Slafaidd) a phawb wrth y Rws, "Mae ein gwlad yn fawr ac yn gyfoethog, ond nid oes trefn ynddi. Dewch i deyrnasu ac i reoli arnon ni." A dewisiwyd tri brawd a'u hil, a daethant â'r holl Rws gyda nhw, ac ymgartrefodd yr hynaf, Rurik, yn Novgorod, a'r ail, Sineus, yn Beloozero, a'r trydydd, Truvor, yn Izborsk. Ac o'r Farangiaid hyn y mae gwlad Rwsia yn cymryd ei henw."

Mae hefyd yn adrodd am ddyfodiad Cristnogaeth i Slafiaid y Dwyrain dan ddylanwad Olga o Kiev, a'r brwydrau cynnar rhwng tywysogion Slafiaid y Dwyrain.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Likhachev, D. S. a Adrianova-Peretts, V. P. 1996. Povest' Vremennykh Let. St. Petersburg: Nauka.