Rurik

Oddi ar Wicipedia
Rurik
Cerflun o Rurik ar gofeb Mileniwm Rwsia yn Detinets (neu Gremlin) Veliky Novgorod.
Ganwyd830 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 879 Edit this on Wikidata
Veliky Novgorod Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddGrand Prince of Novgorod Edit this on Wikidata
PriodEfanda Edit this on Wikidata
PlantIgor o Kiev Edit this on Wikidata
PerthnasauOleg of Novgorod Edit this on Wikidata
LlinachRurik dynasty Edit this on Wikidata

Penadur Farangaidd oedd Rurik (Hen Norseg: Hrøríkʀ trawslythreniad: Hrorekr, Hen Slafoneg Dwyreiniol: Рюрикъ Ryurikŭ, Rwseg ac Wcreineg: Рюрик Ryurik, Belarwseg: Рурык Rurik; tua 824879) a wnaeth, yn ôl hanes traddodiadol y Slafiaid Dwyreiniol, sefydlu brenhinllin y Rurik fel Tywysog Novgorod.

Yn ôl Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen, y cronicl hynaf yn llên y Slafiaid Dwyreiniol, Rurik oedd un o dri brawd o Farangiaid—Llychlynwyr a ymsefydlodd yn Nwyrain Ewrop—a ddaeth i osod seiliau gwladwriaeth gyntaf llwyth y Rws yn 862. Datganwyd Rurik yn Dywysog Novgorod, Sineus yn Dywysog Beloozero, a Truvor yn Dywysog Izborsk.

Mae hanesyddion diweddar wedi bwrw tybiaethau eraill am hanes Rurik. O bosib fe ddaeth o benrhyn Lychlyn neu Jylland tua 855 i sefydlu cadarnle ar lannau Llyn Ladoga, ac oddi yno i orymdeithio ar hyd Afon Volkhov a chipio Novgorod. Yn ôl theori arall, hurfilwyr oedd Rurik a'i fyddin, yn gwasanaethu rhyw benadur arall yn ardal y Volkhov a'r Dnieper, a wrthryfelodd yn erbyn eu cyflogwyr.[1]

Bu farw Rurik yn 879, a symudodd ei olynydd, Oleg, i Kyiv yn 882 i sefydlu Rws Kyiv.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Rurik. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2022.