Veliky Novgorod
| Math | tref neu ddinas, dinas fawr, okrug ddinesig |
|---|---|
| Poblogaeth | 222,669 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Jurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Novgorod |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 90.08 km² |
| Uwch y môr | 25 metr |
| Gerllaw | Llyn Ilmen, Afon Volkhov |
| Yn ffinio gyda | Novgorodsky District |
| Cyfesurynnau | 58.52099°N 31.27579°E |
| Cod post | 173000–173999 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jurij Bobrysjev, Sergey Vladimirovich Busurin, Alexander Rozbaum |
![]() | |
Dinas hanesyddol yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Veliky Novgorod (Rwsieg Вели́кий Но́вгород). Lleolir ar Afon Volkhov, 6 km i'r de o Llyn Ilmen ac 552 km i'r gogledd-orllewinol o ddinas Moscfa. Canolfan weinyddol Oblast Novgorod yw hi.
Mae Novgorod ymysg dinasoedd hynaf Rwsia. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati mewn brut Rwsiadd yn dyddio i'r flwyddyn 859, a cheir cyfeiriadau ati mewn ffynonellau tramor yn gynharach fyth. Yn yr Oesoedd Canol roedd hi'n ddinas fasnachol bwysig dan arweinyddiaeth y veche, cyngor dinasyddion, mewn cyfundrefn weriniaethol. Chwaliwyd Gweriniaeth Novgorod ym 1478, pryd cipiwyd y ddinas a'i hychwanegu at deyrnas Muscovy gan Ifan III.
Ystyr yr enw Novgorod yw 'Dinas Newydd'. Hyd 1999 enw swyddogol y ddinas oedd Novgorod yn unig, er y defnyddid Velikiy ('Fawr') fel epithed anffurfiol. Ym 1999 newidiwyd yr enw yn swyddogol i Velikiy Novgorod ('Novgorod Fawr'), gan i ddinas Gorky ddychwelyd i'w hen enw, Nizhniy Novgorod ('Novgorod Isaf'), a oedd wedi arwain at ddryswch a chamgymeriadau.
