Rwseg
Jump to navigation
Jump to search
Rwseg (русский язык russkij jazyk) | |
---|---|
Siaredir yn: | Rwsia a gwledydd eraill y cyn Undeb Sofietaidd |
Parth: | Dwyrain Ewrop a Gogledd Asia |
Cyfanswm o siaradwyr: | 145 miliwn fel iaith gyntaf 110 miliwn fel ail iaith |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 8 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Balto-Slafeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Rwsia, Belarws, Casachstan, Cirgistan, Cenhedloedd Unedig |
Rheolir gan: | Academi Gwyddoniaethau Rwsia |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ru |
ISO 639-2 | ru |
ISO 639-3 | rus |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Slafeg Ddwyreiniol a siaredir yn Rwsia a nifer o wledydd eraill yw Rwseg (neu Rwsieg) (Русский язык). ynganiad
Hi oedd iaith swyddogol yr Undeb Sofietaidd. Fe'i siaredir gan fwyafrif helaeth poblogaeth Rwsia (142.6 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail-iaith, Cyfrifiad Rwsia 2002), gan leiafrifoedd Rwsiaidd mewn gwledydd eraill, a chan gyfran o'r boblogaeth mewn nifer o wledydd eraill y cyn Undeb Sofietaidd (e.e. Wcrain, Casachstan). Mae niferoedd sylweddol o allfudwyr Rwsiaidd a'u disgynyddion yng ngwledydd y Gorllewin hefyd yn siarad yr iaith. Fe'i defnyddir fel iaith gyffredin ymysg siaradwyr gwahanol ieithoedd Rwsia, Canolbarth Asia, gwledydd y Cawcasws, Wcrain a Belarws.
Geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Helo: здравствуйте /ˈzdrastvujtʲə/
- Hwyl fawr: до свидания /də sviˈdanjə/
- Os gwelwch yn dda: пожалуйста /paˈʒalustə/
- Diolch: спасибо /spaˈsibə/
- Noswaith dda: добрый вечер /'dobrɨj 'vʲɛʧər/
Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Argraffiad Rwseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd