Belarws

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Belarws
Coat of arms of Belarus (official).svg
Рэспубліка Беларусь
(Belarwseg)
Flag of Belarus.svg
Math gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Rws Gwyn Edit this on Wikidata
Prifddinas Minsk Edit this on Wikidata
Poblogaeth 9,494,200 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Anthem Ni, Felarwsiaid Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Sergei Rumas Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Belarwseg, Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd 207,600.496983 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Yr Wcráin, Rwsia, Yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.5283°N 28.0467°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Cyngor y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Y Cynulliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Belarws Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Alexander Lukashenko Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Sergei Rumas Edit this on Wikidata
LocationBelarus.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 54,442 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 5,733 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Belarusian ruble Edit this on Wikidata
Wrth gefn 7,315,236,708 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 6 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.62 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.798 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth dirgaeëdig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarws, Belarŵs neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcrain i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn Wcrain.

Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Belarws

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Belarws

Rhanbarth y dalaith mawr Kievan Rus' oedd Belarws, tan y farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Belarws

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Belarws

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Belarws
Flag of Belarus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Felarws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.