Trychineb Chernobyl

Oddi ar Wicipedia
Trychineb Chernobyl
Enghraifft o'r canlynolnuclear disaster, environmental disaster Edit this on Wikidata
Dyddiad26 Ebrill 1986 Edit this on Wikidata
Lladdwyd4,000 Edit this on Wikidata
LleoliadChernobyl Nuclear Power Plant Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthKyiv Oblast Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr adweithydd niwclear ar ôl y drychineb

Damwain adweithydd niwclear yn Atomfa Chernobyl yn Wcráin, a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd bryd hynny oedd Trychineb Chernobyl. Ystyrir y drychineb fel y drychineb waethaf erioed mewn gorsaf ynni niwclear ac un o ddim ond dwy damwain lefel 7 ar Raddfa Digwyddiad Niwclear Rhyngwladol. Achosodd i lawer iawn o ddeunydd ymbelydrol gael ei ryddhau yn sgîl gwyriadau pŵer enfawr a ddinistriodd yr adweithydd. Bu farw dau berson o ganlyniad i'r ffrwydriad stêm cychwynnol, ond priodolir y rhan fwyaf o'r marwolaethau i ymbelydredd.

Ar 26 Ebrill 1986 am 01:23:45 a.m. (UTC+3), ffrwydrodd adweithydd rhif pedwar yng ngorsaf ynni Chernobyl, ger Pripyat yng Ngweriniaeth Sofietaidd Wcráin. Bu ffrwydriadau pellach a achosodd i dân ddanfon cymylau o fŵg hynod ymbelydrol i'r atmosffer gan orchuddio ardal ddaearyddol eang. Rhyddhawyd bedwar can gwaith mwy o ymbelydredd nag a wnaed gan Fom Atomig Hiroshima ym 1945.[1]

Symudodd y mwg dros rannau helaeth o orllewin yr Undeb Sofietaidd, Dwyrain Ewrop, Gorllewin Ewrop, Gogledd Ewrop a rhan ddwyreiniol Gogledd America, gyda glaw niwclear ysgafn yn glanio yn Iwerddon hefyd. Llygrwyd rhannau helaeth o'r Wcrain, Belarws a Rwsia, gan achosi i dros 336,000 o bobl fudo ac ymgartrefi mewn llefydd eraill. Yn ôl data swyddogol ôl-Sofiet, glaniodd tua 60% o'r ymbelydredd ym Melarws.[2]

Arweiniodd y drychineb at nifer o bobl yn mynegi pryder am y diwydiant ynni niwclear yn yr Undeb Sofietaidd, a arafodd ddatblygiad ynni niwclear yno am nifer o flynyddoedd, a chan orfodi'r llywodraeth Sofietaidd i fod yn llai cyfrinachol. Mae Rwsia, yr Wcrain a Belarws wedi gorfod ymdrin â'r broses sylweddol o ddi-heintio a'r costau meddygol sylweddol a ddaeth yn sgîl trychineb Chernobyl. Mae'n anodd priodoli nifer pendant o farwolaethau oherwydd trychineb Chernobyl, am fod ymdrehcion y llywodraeth Sofietaidd i gelu'r ystadegau wedi ei wneud yn anodd tracio'r holl ddioddefwyr. Roedd rhestrau'n anghyflawn, ac yn ddiweddarach gwaharddwyd doctoriaid rhag nodi "ymbelydredd" ar dystygrifau marw gan yr awdurdodau Sofietaidd.[3]

Amcangyfrifir fod yr holl drychineb wedi costio $200 biliwn ($UDA), o gymryd chwyddiant i mewn i ystyriaeth. Mewn adroddiad yn 2005 a gynhyrchwyd gan Fforwm Chernobyl, o dan arweiniad yr Asiantaeth Ynni Niwclear Rhyngwladol a Chyfundrefn Iechyd y Byd, priodolwyd 56 marwolaeth yn uniongyrchol i'r drychineb (47 o weithiwyr adeg y ddamwain a naw o blant gyda chancr y thyroid, ac amcangyfrifir y gallai fod 4,000 o farwolaethau eraill o gancr o'r 600,000 posib a oedd wedi profi'r ymbelydredd.[4] Er fod rhannau o Chernobyl na ellir mynd iddynt o hyd, ystyrir y rhan fwyaf o ardaloedd a effeithiwyd bellach yn ddiogel i fyw yno ac ar gyfer gweithgarwch economaidd.[5]

Yr effaith yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Effeithiodd y ddamwain ar ddiwydiant amaeth rhan sylweddol o Ewrop, gan gynnwys gwledydd Prydain. Un o'r ardaloedd yr effeithwyd arni yn ddrwg oedd gogledd Cymru. Disgynodd glaw yn cynnwys deunydd ymbelydrol ar yr ucheldiroedd. O ganlyniad, cyfyngwyd ar weithgarwch 5,100 o ddaliadau fferm a 2,000,000 o ddefaid. Rhoddwyd gwaharddiad ar werthu oen a defaid i'w bwyta neu eu symud y tu allan i'r ardaloedd penodedig oherwydd y lefelau uchel o radiocaesiwm yn eu cyrff. Yn 2006, ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd 359 daliad a 180,000 o ddefaid yng ngogledd Cymru yn dal oddi mewn i'r ardaloedd cyfyngedig.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg)Inside Chernobyl. National Geographic. Ebrill 2006. Adalwyd ar 04-07-2009
  2. (Saesneg) Geographical location and extent of radioactive contamination Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback.. Asiantaeth y Swistir am Ddatblygiad a Chydweithrediad. http://www.chernobyl.info/index.php?navID=2 Archifwyd 2007-06-30 yn y Peiriant Wayback.. (gan ddyfynnu'r "Committee on the Problems of the Consequences of the Catastrophe at the Chernobyl NPP: 15 Years after Chernobyl Disaster", Minsk, 2001, p. 5/6 ff., and the "Chernobyl Interinform Agency, Kiev und", a "Chernobyl Committee: MailTable of official data on the reactor accident"). Adalwyd 04-07-2009
  3. (Saesneg) Folks near Chernobyl still cloudy about health Archifwyd 2010-12-28 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 04-07-2009
  4. (Saesneg) At Chernobyl, Global Support for Recovery Moves to Next Phase. Adroddiad IAEA. ADalwyd ar 04-07-2009
  5. (Saesneg) The Chernobyl Forum: 2003-2005. Chernobyl's Legacy: Health, Environmental, and Socio-Economic Impacts and Recommendations to the Governments of Belarws, the Russian Federation and UkrainePDF. IAEA. 2nd revised version. td. 6.
  6. "Monitro a Rheoli Ôl-Chernobyl: Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-05. Cyrchwyd 2009-07-04.