Atomfa Trawsfynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Atomfa Trawsfynydd
Trawsfynydd Nuclear Power Plant crop (MK).jpg
Mathatomfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrawsfynydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9249°N 3.9484°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganMagnox Ltd Edit this on Wikidata
Map

Atomfa Magnox sydd yn y broses o gael ei dadgomisiynu yw Atomfa Trawsfynydd, a leolir ger pentref Trawsfynydd yng Ngwynedd. Ond Gellilydan yw'r pentref agosaf, llai na milltir i ffwrdd.

Dechreuwyd y gwaith ar atomfa Trawsfynydd ym mis Gorffennaf 1959, ac roedd y ddau adweithydd yn rhedeg erbyn Mawrth 1965. Ar un adeg roedd cannoedd o bobl yn gweithio yn Nhrawsfynydd gan ei wneud y prif gyflogydd mewn ardal wledig heb weithfeydd mawr. Pan oedd y gwaith ar ei anterth roedd dros 800 o weithwyr o'r tu allan i'r ardal yn byw yng ngwersyll Bronaber, cyn-wersyll y Fyddin, gyda nifer ohonyn nhw yn Wyddelod. Ymsefydlodd rhai o'r gweithwyr hyn yn yr ardal a bu cynnydd yn y boblogaeth[1]

Agorodd yr atomfa yn llawn ym mis Hydref 1968, ac erbyn hynny roedd wedi costio £103 miliwn.[2] Roedd ganddo ddau adweithydd niwclear Magnox yn cynhyrchu cyfanswm o 470 megawatt (MW).[2] Cyflenwyd yr adweithyddion gan gwmni Atomic Power Construction (APC) a'r tyrbinau gan Richardsons Westgarth & Company. Gwnaed y gwaith peiriannol sifil gan Holland Hannen & Cubitts.[3]

Defnyddiai'r atomfa ddŵr o gronfa Llyn Trawsfynydd i oeri'r adweithyddion ac roedd y cyflenwad hwn o ddŵr a'r lleoliad anghysbell yn un o'r prif resymau gan yr awdurdodau gwladol dros ddewis Trawsfynydd ar gyfer yr atomfa newydd. Byddai'r atomfa yn gollwng 70,000 galwyn o elifiant bob wythnos i mewn i’r llyn.[1]

Mae'r ddau adweithydd ar gau ers 1991 ac mae'r safle yn cael ei dadgomisiynu ar hyn o bryd gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (Nuclear Decommissioning Authority).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Heneb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-12. Cyrchwyd 2009-05-28.
  2. 2.0 2.1 "Nuclear Power Plants in the UK - Scotland and Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-19. Cyrchwyd 2009-05-28.
  3. An historical survey of Cubitts, from the Company's inception in 1810 to the present day (Cubitts, 1975), tud. 25.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]