Gwledydd y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwledydd Prydain)
Gwledydd a dorrodd yn rhydd ac a gawsant annibyniaeth oddi wrth y 'DU'.

Mae gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys pedair wlad a chenedl, sef yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr. Mae Cymru, Lloegr, a'r Alban yn ffurfio ynys Prydain Fawr, a Gogledd Iwerddon yn rhan ogledd ddwyreiniol o ynys Iwerddon. Mae Cymru, yr Alban, a (Gogledd) Iwerddon yn wledydd Celtaidd. Mae wlad Geltaidd Cernyw hefyd yn rhan o Brydain ac felly'r Deyrnas Unedig, ac ystyrid gan rai yn wlad a chenedl ychwanegol, ond yn gyfreithiol ac yn weinyddol mae hi'n sir yn Lloegr.

Lleolir llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, ac mae hefyd gan Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon lywodraethau datganoledig. Mae Cymru a Lloegr yn rhannu'r un system gyfreithiol gydag rhywfaint o annibyniaeth i Gymru trwy Gyfraith Gyfoes Cymru, tra bo gan yr Alban a Gogledd Iwerddon systemau ar wahân eu hunain.

Mae nifer yn ystyried y Deyrnas Unedig neu Brydain yn genedl ei hunain sydd ag hunaniaeth genedlaethol Prydeindod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]