Ynys Brydain

Oddi ar Wicipedia
Ynys Brydain
Mathllysenw Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMab Darogan Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Brythoneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth

Mae Ynys Brydain (weithiau Prydain) yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y Cymry yn yr Oesoedd Canol ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym Mhedair Cainc y Mabinogi er enghraifft, yw Ynys y Cedyrn.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel Prydain Fawr ac Ynysoedd Prydain, yn yr un modd â bod gwahaniaeth pwysig rhwng ystyron yr enwau Brython a Phrydeiniwr. Nid oedd y Brythoniaid yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.

Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod Celtaidd a'r cyfnod ôl-Rufeinig pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o Ystrad Clud i'r Foryd Forth (Glasgow - Caeredin) ym meddiant y Brythoniaid, pobl Geltaidd a siaradai'r iaith Frythoneg. Daeth y llwythau "Eingl-Sacsonaidd" (cyndeidiau'r Saeson) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddiannwyd Lloegr - ac eithrio Cernyw - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr Hen Ogledd allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng Gwŷr y Gogledd a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent alw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ynys yw 'gwlad', fel yn achos y gair Lladin insula).

Roedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi cawn fod Bendigeidfran yn llywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng Ngwynedd (Harlech, Aberffraw a Chaer Saint yn Arfon). Yn y chwedl Cymraeg Canol Lludd a Llefelys, cyfeirir at Rydychen fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y Gwynfryn yn Llundain" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer Branwen ym Môn. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.

Ceir cyfeiriadau mor gynnar â Nennius at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef Môn, Manaw ac Wyth (sylwer nad oes sôn am ynysoedd yr Alban).

Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Brydain oedd y Mab Darogan. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i ailfeddianu Ynys Brydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adnabyddir fel y brudiau neu'r canu darogan gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. Cadwaladr Fendigaid oedd brenin olaf Ynys Brydain cyn iddi gael ei meddiannu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd Armes Prydain ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y 10g.

Ceir yn ogystal Trioedd Ynys Prydain, sy'n gorff o drioedd nemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Brydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)
  • Jerry Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). ISBN 0-86243-603-6
  • (eto), Cyfrinach Ynys Brydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)
  • (eto), Gwlad y Brutiau (Darlith Goffa Henry Lewis, 1990)
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Caerdydd, 1955)